Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae colli plentyn yn brofiad annioddefol i unrhyw deulu. Mae darparu cymorth ymarferol i'r teuluoedd hynny sy'n profi colled o'r fath yn parhau i fod yn bwysig i Weinidogion Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau tosturiol ac ymarferol i'r rheini yr effeithir arnynt gan golled mor anodd. 

Yn 2017, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru ar drefniadau i ildio ffioedd claddu neu amlosgi ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Canfu adolygiad yn 2019 fod y trefniant hwn wedi bod yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau gwell cysondeb mewn perthynas ag ildio ffioedd am gladdu neu amlosgi plant ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd llawer o deuluoedd yn dal i ysgwyddo’r pwysau a'r straen a ddaw wrth boeni am dalu costau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd. 

Ers mis Ebrill 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda’r costau hyn, ac mae £500 wedi bod ar gael i unrhyw deulu yng Nghymru sydd wedi colli plentyn.

Mae hwn yn gynnig cyffredinol waeth beth yw incwm y teulu, ond nid oes rheidrwydd arnynt i dderbyn y taliad os nad yw aelodau’r teulu yn dymuno ei gael. Mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, megis tuag at gofebau a cherrig beddi yn ogystal â chostau cynnal angladd. 

Mae fy swyddogion wedi adolygu'r cyllid gyda chefnogaeth y Gweithgor Profedigaeth Plant, sy'n cynnwys aelodau o bob rhan o lywodraeth leol, y Gwasanaeth Cofrestryddion a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 

Rwyf wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi'r ddwy agwedd ar y trefniant, sef ildio ffioedd a darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sydd wedi'i ddiweddaru, i ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi'r teuluoedd hyn.