Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall trefniadau rhannu swydd ei gwneud yn haws i unigolion gydbwyso gwahanol rolau, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol a chyflawni rhwymedigaethau eraill ar yr un pryd megis gwaith a chyfrifoldebau gofal. 

Mae’r mesurau hyn yn sicrhau bod ymgysylltu dinesig yn hygyrch i bawb, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau personol, gan felly gryfhau’r broses ddemocrataidd a hyrwyddo tegwch.

Caiff ein democratiaeth ei chyfoethogi pan fyddwn yn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cyfrannu ati a chymryd rhan ynddi. Mae cael gwared ar rwystrau i gymryd rhan yn caniatáu i leisiau o gefndiroedd amrywiol gael eu clywed, gan sicrhau bod ein democratiaeth yn adlewyrchu’n well anghenion a dyheadau cymunedau lleol.

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn cynnwys darpariaethau i fynd i’r afael â sawl mater penodol ynghylch y trefniadau ymarferol ar gyfer partneriaethau rhannu swyddi aelodau’r weithrediaeth. Roedd y rhain yn cynnwys trefniadau pleidleisio yn y cabinet, trefniadau cworwm ar gyfer cyfarfodydd y mae partneriaid rhannu swydd yn bresennol ynddynt a rheolau ynghylch nifer yr aelodau cabinet a ganiateir pan fydd y cabinet yn cynnwys trefniadau rhannu swydd.

Mae Deddf 2021 yn darparu pŵer hefyd i drefniadau rhannu swydd gael eu hestyn i rolau anweithredol uwch megis cadeiryddion pwyllgorau. 

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddais ymgynghoriad i archwilio’r canlynol:

  • y trefniadau presennol ar gyfer aelodau gweithrediaeth ac a oes materion sydd wedi codi wrth gymhwyso’r trefniadau hyn y mae angen eu hystyried ymhellach; ac
  • estyn y darpariaethau i rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth, gan gynnwys nodi materion y bydd angen mynd i’r afael â hwy os rhoddir y dull gweithredu hwn ar waith.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Daeth 20 o ymatebion i law ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gyflwynodd eu safbwyntiau. 

Cafwyd cefnogaeth eang i estyn darpariaethau rhannu swydd i rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth a byddaf yn bwrw ati yn awr i wneud y rheoliadau a’r canllawiau angenrheidiol er mwyn cyflawni’r gwaith hwn.