Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a partneriaid ledled Cymru i sicrhau bod ein porthladdoedd rhydd a'n parthau buddsoddi yn cael eu cefnogi i wireddu potensial economaidd toreithiog Cymru.

Rydym wedi cytuno â Llywodraeth y DU i estyn oes ein parthau buddsoddi yn y De-ddwyrain a'r Gogledd-ddwyrain o bump i ddeng mlynedd. Bydd pob un yn cael pecun ariannu o £160m o 2024 tan 2034, i'w ddefnyddio'n hyblyg fel gwariant a chymhellion treth, yn amodol ar y cynigion y bydd Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu cyd-ddylunio a'r cynlluniau cyflawni y cytunir arnynt. Fel rhan o becyn o gymhellion treth, bydd parthau buddsoddi yng Nghymru yn cael cadw 50% o'r ardrethi annomestig ychwanegol a wneir yn yr ardaloedd dynodedig i'w hailfuddsoddi yn y parth buddsoddi. 

Yn ogystal â'r cytundeb i estyn parthau buddsoddi o bum mlynedd i 10, rydym wedi cytuno hefyd i estyn o bump i 10 mlynedd tan 2034 y ffenest pan gaiff porthladd rhydd Ynys Môn a'r porthladd rhydd Celtaidd hawlio rhyddhad rhag talu treth. Byddwn yn adolygu'r estyniad hwn yn 2028 i wneud yn siwr bod pob porthladd rhydd yn gwneud digon o gynnydd. Bydd estyn y ffenest rhyddhad treth ar gyfer porthladdoedd rhydd yn hwb hirdymor i fusnesau sydd am fuddsoddi, creu twf a swyddi a helpu i adfywio ein cymunedau.