Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn gymwys pan fo'r prynwr eisoes yn berchen ar un neu fwy o eiddo preswyl. Fodd bynnag, os yw'r prynwr yn newid ei brif breswylfa ac yn gwerthu ei brif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd i brynu’r prif breswylfa newydd, maent yn gymwys i hawlio ad-daliad o elfen cyfraddau uwch y dreth a dalwyd.

Mae'r cyfnod o dair blynedd i hawlio ad-daliad yn ddigonol ar gyfer gwerthu'r prif breswylfa flaenorol yn y mwyafrif llethol o achosion. Fodd bynnag, weithiau mae amgylchiadau gwirioneddol eithriadol na ellid bod wedi'u rhagweld yn rhesymol yn rhwystro gwerthiant y prif breswylfa flaenorol o fewn y cyfnod hwnnw. Yn benodol, ceir achosion lle nad yw pobl wedi gallu gwerthu eu prif breswylfa flaenorol oherwydd materion sy'n gysylltiedig â chladin anniogel ac mae'r cyfnod ad-dalu naill ai bellach wedi dod i ben neu yn mynd i ddod i ben cyn i'r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau. O’r herwydd, ni fydd y rhwystr i werthu yn cael ei ddatrys mewn pryd.

Felly, bwriadaf gyflwyno deddfwriaeth maes o law a fydd yn caniatáu i drethdalwyr hawlio ad-daliad o'r cyfraddau uwch lle maent yn disodli eu prif breswylfa ac wedi gwerthu eu prif breswylfa flaenorol fwy na thair blynedd ar ôl prynu'r eiddo newydd, os yw amgylchiadau gwirioneddol eithriadol yn ymwneud â materion cladin anniogel yn atal y gwerthiant rhag cael ei gwblhau'n gyflymach.

Byddaf yn rhannu rhagor o wybodaeth gyda’r Aelodau maes o law.