Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths – Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn wlad lle mae tai o ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy ar gael i bawb.  Yn hyn o beth, mae’n hanfodol ein bod yn cynyddu’r cyflenwad o dai newydd sydd ar gael, a hynny ar draws pob math o ddeiliadaethau.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cynllun Cymorth i Brynu Cymru wedi helpu i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ogystal â helpu pobl i brynu’r cartrefi hyn.

Er mwyn ychwanegu at y llwyddiant hwn, dyma gyhoeddi felly y bydd Llywodraeth Cymru’n ymestyn cynllun Cymorth i Brynu - Cymru y tu hwnt i 31 Mawrth 2016.

Bydd union fanylion yr estyniad i’r cynllun yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniad Adolygiad Gwariant nesaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n pennu cyllideb Cymru ar gyfer 2016-17 a thu hwnt.  Cyn hynny fodd bynnag, rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig i ni wneud y sector tai yn ymwybodol o’n bwriad i ymestyn cynllun Cymorth i Brynu Cymru; bydd hyn yn rhoi hyder i ddatblygwyr fuddsoddi ac yn helpu prynwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol.