Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ym mis Ebrill 2017, i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau a effeithir gan yr ailbrisio annibynnol a chan dwf gwerthu ar y we.

Heddiw rwy’n estyn y cynllun am flwyddyn arall ac yn ehangu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau drwy’r cynllun. Bydd y cynllun diwygiedig yn mynd gryn dipyn ymhellach nag yn y blynyddoedd diwethaf ac yn darparu cymorth i bob manwerthwr yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.

Bydd £23.6 miliwn o gymorth ychwanegol ar gael yn 2019-20 drwy’r cynllun rhyddhad ar gyfer ardrethi’r stryd fawr i gefnogi busnesau Cymru – mae hyn yn ychwanegol at y swm o fwy na £210m yr ydym yn ei ddarparu drwy ein ffynonellau cymorth eraill i helpu busnesau i dalu eu biiliau ardrethi.

Bydd y cynllun diwygiedig ar gyfer rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn darparu cymorth i oddeutu 15,000 o fusnesau bach a chanolig eu maint yn 2019-20. Bydd yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn rhoi cymorth o hyd at £2,500 tuag at filiau ardrethi annomestig eiddo manwerthu sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. 

Bydd yn lleihau’r biliau ardrethi i sero ar gyfer eiddo manwerthu sydd â gwerth ardrethol o hyd at £9,100, ac yn golygu y bydd £2,500 o ostyngiad yn y biliau ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol uwch.

Yn ogystal â chynyddu’r cymorth sydd ar gael i fanwerthwyr y stryd fawr, bydd y cynllun yn helpu manwerthwyr mewn lleoliadau eraill. Ymysg y rhai fydd yn elwa ar y rhyddhad hwn bydd cwmnïau sy’n meddiannu eiddo manwerthu megis siopau, bwytai, caffis, tafarnau a bariau gwin.

Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 15,000 o dalwyr ardrethi yn cael cymorth gan y cynllun, a fydd yn cael ei roi ar waith ar ben ein cynlluniau rhyddhad presennol.

Bydd £2.4m pellach yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol i ddarparu rhyddhad ardrethol disgresiynol ychwanegol i fusnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill er mwyn ymateb i faterion lleol penodol.  

Caiff y cyllid hwn ei ddarparu i’r awdurdodau lleol drwy’r grant cynnal refeniw yn 2019-20.

Mae’r estyniad hwn i’r cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr, y cyllid ychwanegol ar gyfer rhyddhad ardrethol disgresiynol, ynghyd â’r cynllun parhaol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd ar waith ers mis Ebrill 2018 a threfniadau rhyddhad pwrpasol eraill, gyda’i gilydd yn cynnig cymorth amserol, wedi’i dargedu, ar gyfer talwyr ardrethi drwy Gymru.

Mae’r dull gweithredu hwn yn gwneud defnydd llawn o’r swm canlyniadol a dderbyniwyd yn sgil Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU. Rydym wedi cynllunio cynllun sy’n diwallu anghenion ac amgylchiadau busnesau bach yng Nghymru.  

Nodyn technegol

Dyma’r meini prawf cymhwyso i fusnesau ar gyfer y cynllun diwygiedig i roi rhyddhad ardrethi i fanwerthu a’r stryd fawr:

  1. Hereditamentau a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw.
  2. Hereditamentau a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf ar gyfer darparu gwasanaethau manwerthu i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw..
  3. Hereditamentau a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf ar gyfer gwerthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw.

Ni fydd y rhyddhad yn cynnwys:

  1. Hereditamentau sydd wedi’u prisio’n uwch na £50,000.
  2. Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw.
  3. Hereditamentau sydd mewn parciau manwerthu ar gyrion trefi neu mewn ystadau diwydiannol
  4. Hereditamentau nad ydynt wedi’u meddiannu

Hereditamentau sy’n derbyn rhyddhad ardrethi elusennol gorfodol.