Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwledydd eraill y DU i nodi a chyflwyno therapïau newydd ar gyfer trin COVID-19. Wrth benderfynu pa driniaethau y dylid eu defnyddio’n rheolaidd wrth reoli COVID-19 cawn arweiniad gan gyngor menter ymchwilio i lwybr mynediad ar gyfer cyffuriau ymchwiliol ar gyfer COVID-19 (RAPID C-19) a grŵp arbenigol clinigol cenedlaethol y DU ar therapiwteg COVID. Mae’r dull gweithredu hwn wedi gweithio’n dda i ni.

Drwy ein hymdrechion ar y cyd rydym bellach yn gallu cynnig triniaethau i bobl â salwch difrifol gan gynnwys remdesivir, tocilizumab a sarilumab, sydd mewn llawer o achosion yn golygu nad oes angen gofal critigol arnynt fwyach pan gânt eu derbyn i’r ysbyty. Yn fwy diweddar, rydym wedi gallu rhoi triniaeth gynnar i fwy na 5000 o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru gyda’r meddyginiaethau gwrthfeirol nirmatrelavir/ritonavir, a molnupiravir, a'r gwrthgorff sy’n niwtraleiddio, sotrovimab, er mwyn eu hatal rhag mynd i’r ysbyty o gwbl. Yn ogystal â’n rhaglen frechu, mae galluogi pobl i gael gafael ar driniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn lleihau’r galw ar y GIG ac yn y pen draw yn achub bywydau.

Yn ystod yr wythnosau diweddar, rwyf wedi cael gohebiaeth gan Aelodau o’r Senedd ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chaffael cyfuniad y gwrthgorff monoclonaidd sy’n niwtraleiddio, tixagevimab/cilgavimab (Evusheld), ar gyfer proffylacsis cyn-gysylltiad COVID-19. 

Yn benodol, mae pobl wedi gofyn i mi pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn caffael Evusheld yn uniongyrchol y tu allan i drefniadau caffael y DU gyfan a sefydlwyd yn ystod y pandemig. Gallaf gadarnhau, nid ydym yn bwriadu caffael Evusheld yn uniongyrchol ar hyn o bryd – byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i gyngor RAPID C-19 a’r grŵp arbenigol clinigol cenedlaethol, gan fod cyngor presennol y ddau hyn yn argymell yn erbyn caffael Evusheld.

Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor clinigol ar opsiynau therapiwtig, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn drwy gydol y pandemig. Os bydd tystiolaeth gymhellol o’i effeithiolrwydd yn dod i’r amlwg, byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i sicrhau bod cyflenwad o Evusheld ar gael i’r bobl hynny all gael budd ohono. Felly, rwy’n falch bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal eisoes wedi dechrau gweithio ar ei arfarniad technoleg unigol o Evusheld, a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn gynnar yn yr haf y flwyddyn nesaf.

Byddaf yn darparu datganiad pellach ar fynediad at Evusheld os bydd y sefyllfa’n newid.