Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn bod Cymru unwaith eto wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf yn un o’r prif gystadlaethau pêl-droed ac rydym yn gobeithio am lwyddiant pellach yng nghystadleuaeth Ewro 2020. Mae’n gyfnod cyffrous i dîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru ac i’n cefnogwyr gwych. Mae pawb yn dymuno pob hwyl i’r tîm yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn.

Mae cystadleuaeth Ewro 2020 yn cael ei chynnal yn ystod pandemig byd-eang ac, yn anffodus, bydd y cyfyngiadau sydd mewn grym i’n diogelu ni i gyd yn effeithio ar gefnogwyr Cymru sy’n gobeithio teithio i ddilyn ein tîm cenedlaethol.

Ein cyngor pendant yw mai’r ffordd orau inni i gyd ddangos ein cefnogaeth i Gymru yw drwy gefnogi’r tîm o gartref.

Rydym hefyd yn cynghori pawb – nid cefnogwyr pêl-droed yn unig – i beidio â theithio dramor yr haf hwn ac er bod llwyddiant Cymru i gyrraedd rownd nesaf yr Ewros yn bwysig iawn – nid yw teithio yno yn hanfodol. Dyma’r flwyddyn i aros gartref.

Mae ein hymdrechion i leihau achosion o’r coronafeirws o’r lefelau uchel iawn a welwyd ar ddechrau’r flwyddyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac rydym am wneud popeth y gallwn ni i gadw’r feirws o dan reolaeth, yn enwedig yn sgil lledaeniad yr amrywiolyn delta yng Nghymru. Bydd aros gartref i gefnogi Cymru, yn yr awyr agored yn ddelfrydol, yn ein helpu i wneud hynny.

Bydd angen i unrhyw un sy’n ystyried teithio dramor i wylio Cymru’n chwarae fod mewn cwarantin yn eu cartref am 10 diwrnod ar ôl dychwelyd i Gymru. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol gorfodol. Yn ogystal, bydd angen archebu prawf PCR gorfodol, a thalu amdano, ar gyfer ail ddiwrnod ac wythfed diwrnod y cyfnod cwarantin.

Mae’n bwysig cofio mai dim ond un rhan o’r gofynion teithio yw’r rheoliadau sydd mewn grym yng Nghymru – rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu teithio hefyd wirio’r gofynion a’r cyfyngiadau mynediad sydd mewn grym yn y wlad neu’r gwledydd dan sylw.

Yn achos yr Iseldiroedd, mae awdurdodau’r heddlu yno wedi dweud na fyddant yn gadael cefnogwyr Cymru i mewn i’r wlad.

Ar gyfer pob gwlad y tu allan i ardal deithio Schengen yr UE, mae gwaharddiad teithio mewn grym, oni bai bod y wlad ar restr ddiogel yr UE. Nid yw’r DU ar y rhestr hon ac felly mae gwaharddiad mewn grym ar deithio i’r Iseldiroedd, oni bai ei fod yn hanfodol. Nid yw ymweld â’r wlad i wylio gêm bêl-droed yn cael ei ystyried yn hanfodol.

Mae’r Iseldiroedd hefyd wedi cyflwyno gofynion ar gyfer cwarantin a phrofion gorfodol i bobl sy’n cyrraedd y wlad.

Mae Llywodraeth y DU yn cynghori yn erbyn teithio i’r Iseldiroedd, oni bai ei fod yn hanfodol.

Rydym yn dymuno pob hwyl i dîm Cymru ac yn annog cefnogwyr i fwynhau’r pêl-droed gartref.

Byddwn i hefyd yn annog unrhyw un sy’n ystyried dilyn taith rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica fis nesaf i wrando ar y neges hon a pheidio â theithio i’r wlad honno. Mae angen i gefnogwyr rygbi, fel cefnogwyr pêl-droed, chwarae eu rhan i helpu i ddiogelu Cymru.

Mae De Affrica ar y rhestr ‘goch’ oherwydd y risgiau sy’n gysylltiedig â’r amrywiolion sy’n peri pryder sydd yno. Gallai’r rhain gael effaith niweidiol ar ein rhaglen frechu os byddant yn dod i’r DU. Mae’r amrywiolyn beta, sef y math mwyaf cyffredin yn Ne Affrica, yn well am osgoi effaith amddiffynnol brechlynnau Covid nag amrywiolion eraill.

Rhaid i unrhyw un sy’n cyrraedd y DU ar ôl bod mewn gwlad ar y rhestr ‘goch’ yn y 10 diwrnod blaenorol fynd i gyfleuster cwarantin a reolir (gwesty cwarantin) a fydd yn costio o leiaf £1,750 am 10 diwrnod ger eu porth mynediad, a chymryd prawf PCR ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod. Gellir rhoi dirwy o hyd at £10,000 am fethu â chydymffurfio.