Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Hoffwn longyfarch Cynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen ar gytuno i benodi Cyd-Brif Weithredwr parhaol ar gyfer y ddau gyngor.
Daw'r penodiad yn dilyn 'cam darganfod' o 7 mis pan gytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, wrth i waith ymchwil gael ei wneud i werthuso effaith cydweithio'n agosach.
Mae'r adolygiad gan Local Partnerships, sydd bellach wedi dod i ben, wedi nodi sawl budd i'r dull hwn. Mae cyfleoedd i sicrhau effeithlonrwydd ariannol, i greu diwylliant o wella gwasanaethau i breswylwyr, ac i sbarduno cydweithio a rhannu gwybodaeth. Yn ystod y cam darganfod gwelwyd tystiolaeth o fanteision cynyddu'r raddfa gyflawni, cynllunio strategol cryfach a datblygu staff yn well o fewn y cynghorau.
Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen wedi ymgymryd â'r prosiect cyffrous hwn fel ffederasiwn o ddau gyngor o statws cyfartal, gan geisio buddion i'r ddwy ochr ac archwilio ffyrdd newydd o weithio. Maent wedi ymgysylltu ag arweinwyr ac aelodau etholedig ar draws cynghorau ac ennyn eu hyder, gan adeiladu ar nodau a rennir er budd eu preswylwyr. Maent wedi mabwysiadu dull partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys yr undebau llafur drwy gydol y broses. Mae'r rhain yn arwyddion clir o chwilfrydedd iach, ymrwymiad i arloesi ac aeddfedrwydd partneriaid ar draws y cynghorau.
Mae hwn yn ddull cyffrous ac arloesol sy'n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor, ond sydd hefyd yn cadw sofraniaeth ariannol a democrataidd y ddau gyngor. Rwy'n cymeradwyo eu harloesedd i fod yn rhagweithiol wrth wynebu gofynion y presennol a'r dyfodol. Mae nifer o gyfleoedd i ddysgu ar y cyd yn deillio o'r gwaith hwn.
Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid yn CLlLC i gefnogi Cynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen a Blaenau Gwent ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd o'r cam nesaf.