Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n siŵr bydd aelodau yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau yn ymwneud â digwyddiad cymdeithasol a fynychwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg mewn rôl bersonol ym mis Mai eleni.

Gan fod adroddiadau fod prif weithredwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn bresennol yn y digwyddiad, a'r ffaith bod Gilestone Farm wedi cael ei brynu yn ddiweddar, gofynnais i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru lunio adroddiad i mi am yr amgylchiadau.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, daeth i'r casgliad nad oedd y Cod Gweinidogol wedi ei dorri gan y digwydd ac nad oedd yr un o'r ddau Weinidog wedi gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â phrynu Fferm Gilestone.

Er na ddisgwylir i'r naill Weinidog na'r llall wneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â Fferm Gilestone, o ystyried y risg tybiedig, ni fydd y ddau Weinidog yn gwneud unrhyw penderfyniadau ar hyn yn y dyfodol.

Mae'r cyngor yn argymell bod Gweinidogion yn cael canllawiau ar gyfer cysylltiadau gyda lobïwyr sy'n digwydd yn rhinwedd eu swydd anweinidogol. Byddaf yn ysgrifennu at Weinidogion i ddarparu'r canllawiau hyn.

Rwy'n atodi'r cyngor rwyf wedi ei dderbyn i'r Datganiad Ysgrifenedig hwn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.