Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (‘Deddf 2019’) wedi cael effaith bositif iawn ar warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat rhag ffioedd annheg, gan arbed £200 i denantiaid, ar gyfartaledd, fesul tenantiaeth.

Nid yw Deddf 2019 yn effeithio ar fwyafrif helaeth y tenantiaethau a drefnir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a elwir hefyd yn gymdeithasau tai. Fodd bynnag, fel rydym wedi’i nodi cyn hyn, mae Deddf 2019 wedi arwain at sefyllfa na fwriadwyd mewn perthynas â lleiafrif o denantiaethau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n denantiaethau byrddaliadol sicr. Ers ei gweithredu, mae Deddf 2019 wedi arwain at wahardd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a darparwyr llety â chymorth rhag codi ffioedd gwasanaeth mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr o’r fath. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa mewn perthynas â mwyafrif helaeth tenantiaethau’r sector tai cymdeithasol, lle nad oes gwaharddiad ar godi ffioedd. 

Dros yr wythnosau diwethaf, a lle bo modd, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cymryd camau i drosglwyddo tenantiaid sydd â thenantiaeth fyrddaliadol sicr i denantiaeth sicr, sef prif denantiaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac sy’n cynnig y sicrwydd deiliadaeth mwyaf i denantiaid. Byddai’r rhan fwyaf o’r tenantiaid hyn wedi’u trosglwyddo i denantiaethau sicr beth bynnag ar ddiwedd eu tenantiaeth fyrddaliadol sicr.

Roedd fy natganiad ar 9 Rhagfyr yn ei gwneud yn glir y dylid cywiro canlyniadau anfwriadol Deddf 2019 cyn gynted â phosibl, ac ymrwymais i roi gwybodaeth reolaidd i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau. Ers hynny, mae fy swyddogion a minnau wedi cymryd cyfres o gamau i ddatrys y mater.

Ar ôl gweithio’n agos gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru, cyrff sy’n cynrychioli Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a darparwyr llety â chymorth, ac ar ôl trafodaethau manwl gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, ysgrifennodd fy swyddogion at Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a darparwyr llety â chymorth ar 22 Rhagfyr. Nododd y llythyr hwnnw ein bod yn bwriadu gwneud newid deddfwriaethol a fyddai’n ôl-weithredol ei effaith, er mwyn cyfreithloni’r holl ffioedd sydd wedi’u codi ers i Ddeddf 2019 ddod i rym. Roedd yn esbonio bod swyddogion wedi cytuno â’r Adran Gwaith a Phensiynau, yng ngoleuni’r effaith negyddol bosibl ar fudd-daliadau unigolion, na fyddai rhoi’r gorau i godi ffioedd gwasanaeth tra bo’r newid deddfwriaethol yn cael ei wneud o fudd i’r tenantiaid hynny. Aeth y llythyr yn ei flaen i ddweud na fyddai Gweinidogion Cymru yn ceisio cymryd unrhyw gamau yn erbyn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig mewn perthynas â’r mater hwn, yn rhinwedd eu swydd fel rheoleiddwyr.  

Ar 22 Ionawr, ysgrifennodd swyddogion mewn termau tebyg at awdurdodau lleol, yng ngoleuni eu pwerau gorfodi o dan Ddeddf 2019 a’u swyddogaethau mewn perthynas â thaliadau budd-daliadau tai a chomisiynu gwasanaethau cymorth tai. Roedd y llythyr hwnnw yn nodi, er mai mater i awdurdodau lleol yw ystyried sut i ddefnyddio eu pwerau gorfodi a chyflawni swyddogaethau eraill sy’n ymwneud â’r mater hwn, ei bod yn bwysig eu bod yn gwneud hynny gan roi ystyriaeth lawn i gyd-destun y sefyllfa arbennig hon.

Ar 1 Chwefror, ar ôl mynd ati’n gyntaf i holi barn sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr tai cymdeithasol a thenantiaid, cyflwynais ddau welliant Cam 3 i Fil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (‘y Bil’), sydd, yn ôl-weithredol, yn ychwanegu ffioedd gwasanaeth, a godir gan landlordiaid cymunedol (sy’n cynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) a darparwyr llety â chymorth, at y rhestr o daliadau a ganiateir yn Atodlen 1 Deddf 2019. Cafodd y gwelliannau hynny eu pasio gan y Senedd yn ystod trafodion Cam 3 ar 10 Chwefror.

Rwy’n fodlon y bydd y gwelliannau y mae’r Bil yn eu gwneud i Ddeddf 2019, a chymryd bod y Bil yn cael ei basio gan y Senedd ac yn cael Cydsyniad Brenhinol, yn datrys y broblem o ran ffioedd gwasanaeth, a bod hyn o fantais i bawb, gan gynnwys tenantiaid.