Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae landlordiaid cymdeithasol yn flaenllaw o ran diwallu anghenion tai a chymorth rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, maent wedi helpu tenantiaid cymdeithasol a'u cefnogi drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw dilynol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mhenderfyniad i ymestyn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026. Mae hyn yn golygu ar yr amod bod ffigur chwyddiant prisiau defnyddwyr (CPI) mis Medi yn rhwng 0% a 3%, bydd landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn gallu pennu eu cynnydd eu hunain mewn rhent i'w tenantiaid ar gyfer 2025-26, yn unol â'r fformiwla a'r canllawiau a nodir yn y safon rhent. 

Mae ymestyn y safon rhent am flwyddyn arall yn rhoi hysbysiad cynnar i landlordiaid cymdeithasol o'r paramedrau y mae'n rhaid cadw o fewn iddynt wrth weithredu unrhyw gynnydd mewn rhent i'w tenantiaid. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i denantiaid y bydd ymdrechion i gefnogi'r rhai sy'n profi caledi ariannol difrifol ac na fydd tenantiaid yn cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref pan fyddant yn trafod â'u landlordiaid, yn parhau i'r dyfodol. 

Mae'r ymrwymiadau hyn yn rhan o becyn o fentrau y cytunwyd arnynt ar y cyd ac a ymrwymwyd iddynt fel rhan o gytundebau setlo rhent ehangach ac mae'n cynnwys yr amcan sylfaenol o ddatblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.  Mae fforddiadwyedd wedi bod wrth wraidd ein polisi rhent cymdeithasol erioed.  Felly, rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cychwyn rhaglen waith bwysig i ymgorffori fforddiadwyedd yn briodol yn ein polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol. 

Gan gydweithio'n agos â'r sector tai cymdeithasol ehangach, rydym wedi dechrau ein rhaglen waith i adolygu pob agwedd ar y safon rhent a datblygu polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol sy'n addas i'r diben; yn cyd-fynd â'n fframweithiau deddfwriaethol; ac yn gweithio i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru.  Mae grŵp llywio sy'n cynnwys cynrychiolwyr y sector wedi'i sefydlu i oruchwylio darparu ein rhaglen waith. 

Mae'r rhaglen polisi rhent cymdeithasol yn cynnwys corff sylweddol o waith sydd angen mewnbwn ystyrlon gan y sector tai cymdeithasol ehangach.  Drwy ymestyn y safon rhent, rwyf wedi rhoi hysbysiad cynnar o'r paramedrau ar gyfer setliad rhent y flwyddyn nesaf, er mwyn galluogi ein holl bartneriaid sy'n gweithio ar draws y sector ehangach i gymryd rhan a chydweithio ar ddatblygu polisi rhent cymdeithasol i Gymru yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y gallwn gyda'n gilydd gyflawni yn y maes polisi tai sylfaenol a phellgyrhaeddol hwn.