Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn rhan sylweddol o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu’r pwys mawr rydym yn ei roi ar y gwasanaethau hanfodol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu i bobl ar draws Cymru. Fel y gwyddai’r Aelodau, mae mwyafrif y cymorth refeniw a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud trwy’r setliad refeniw llywodraeth leol blynyddol. Yn 2024-25, bydd yn darparu mwy na £5.72bn i 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r cyllid hwn heb ei neilltuo, sy’n rhoi’r hyblygrwydd angenrheidiol i awdurdodau i ymateb i bwysau a blaenoriaethau lleol. Mae’n cael ei ddarparu drwy fformwla sydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion perthnasol pob awdurdod lleol a’i allu i drethu. 

Fel y dywedais cyn y dadleuon ar gyllid llywodraeth leol yn gynharach eleni, rwyf wedi ymrwymo i wella tryloywder datblygiad parhaus y fformwla gyllido llywodraeth leol. Rwy’n cydnabod bod y fformiwla yn un cymhleth – mae fy swyddogion, ynghyd â swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn cryfhau ymdrechion i gyfathrebu sut y penderfynir ar y setliad hwn drwy gynnig mwy o sesiynau gwybodaeth i swyddogion ac aelodau etholedig lleol ac i Gymdeithas Trysoryddion Cymru. Mae fy swyddogion hefyd yn cynnig sesiwn wybodaeth flynyddol ar y fformiwla i Aelodau’r Senedd. 

Mae’r gwaith i ddatblygu a chynnal y fformiwla yn cael ei wneud mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol drwy swyddogion yr Is-grŵp Dosbarthu, sy’n cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol drwy Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru. Mae cofnodion y grwpiau hyn yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd. Rwyf hefyd yn cyhoeddi rhaglen waith flynyddol Is-grŵp Dosbarthu 2024 heddiw, a gytunwyd gan yr Is-grŵp Cyllid y mis hwn. 

Cadarnhaodd yr Is-grŵp Cyllid ymrwymiad llywodraeth leol i adolygiad parhaus a chyd-ddatblygiad y fformiwla. Rwy’n falch bod y rhaglen waith ar gyfer 2024 yn dangos bod elfennau allweddol y fformiwla sy’n ymwneud ag ysgolion a gofal cymdeithasol wedi’u clustnodi ar gyfer eu trafod eleni. 

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i dynnu sylw at yr wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi ers sawl blwyddyn drwy’r adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (sydd wedi’i osod gerbon y Senedd). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys llawer o’r manylion y tu ôl i’r setliad, fel sail y cyfrifiadau ar gyfer cydrannau’r grant cynnal refeniw, ardrethi annomestig ac asesiadau o wariant safonol, ynghyd â’r dangosyddion a’r gwerthoedd a ddefnyddir yn y cyfrifiadau.

Yn ogystal â hyn, cyhoeddir cofnod cynhwysfawr o fformiwla pob blwyddyn mewn Llyfr Gwyrdd. Fel rhan o’r ymdrech i wella tryloywder a deall yr agwedd bwysig hon o gyllid llywodraeth leol, mae strwythur y Llyfr Gwyrdd o 2021-22 ymlaen wedi gwella yn sylweddol o ran hygyrchedd a faint o wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ynddo. Mae llyfrau gwaith ar wahân sy’n manylu ar y dangosyddion a’r asesiadau seiliedig ar ddangosyddion ynghyd a’r fformwlâu ar gyfer cyfrifo’r asesiadau o wariant safonol ar gyfer prif feysydd darpariaeth gwasanaethau lleol. 

Mae gwella ymwybyddiaeth a deall y fformiwla a’i gynnal a chadw yn gyson yn broses barhaus. Mae angen cael gwell dealltwriaeth i gefnogi craffu a datblygiad priodol, o fewn llywodraeth leol a’r Senedd. Bydd swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'm swyddogion yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo dealltwriaeth yn barhaus.