Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y mae’r Aelodau’n gwybod, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael mwy o ran yn y negodiadau ynghylch perthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Gan adeiladu ar drafodaethau cychwynnol Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) mae Fforwm Gweinidogion newydd wedi’i sefydlu i drafod y berthnynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i’r gweinyddiaethau datganoledig gyfrannu i’r broses o ddatblygu safbwynt negodi ar gyfer y DU. Rydym wedi bod yn dadlau o blaid fforwm o’r fath ers peth amser, felly rydym yn croesawu’r datblygiad hwn.

Bydd y fforwm newydd yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Weinidogion o’r Adran dros Ymadael â’r UE (DExEU) a Swyddfa’r Cabinet; yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE Robin Walker a’r Ysgrifennydd Seneddol a’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad Chloe Smith, a bydd Gweinidogion eraill o Lywodraeth y DU yn mynychu cyfarfodydd ar gyfer eitemau penodol.

Bydd rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn mynychu’r cyfarfodydd, ynghyd â rhai o Weinidogion Llywodraeth yr Alban a swyddogion o wasanaeth sifil Gogledd Iwerddon.

Bydd trafodaethau technegol ar lefel swyddogion yn bwydo gwybodaeth i’r cyfarfodydd. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Tai ac Adfywio, fod yn Weinidog arweiniol ar gyfer y Fforwm Gweinidogion newydd, gan gydweithio â mi fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar y Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn barod. Rhagwelir y bydd yr Ysgrifenyddion Cabinet a’r Gweinidogion perthnasol o Lywodraeth Cymru yn mynychu’r cyfarfodydd pan fydd trafodaethau polisi ynglŷn â’u meysydd hwy ar yr agenda a phan fydd y Gweinidogion cyfatebol o Lywodraeth y DU yn bresennol hefyd.

Cynhelir cyfarfod cyntaf Fforwm y Gweinidogion yng Nghaeredin heddiw, 24 Mai, a bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn bresennol. Rydym yn disgwyl y bydd y cyfarfod cyntaf yn canolbwyntio ar y safbwynt negodi eang yn hytrach nag ar faterion adrannol perthnasol .

Byddwn yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â datblygiad a gwaith Fforwm y Gweinidogion.