Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 20 Hydref, cynhaliodd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd a minnau y trydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru blynyddol yng Ngogledd Cymru, ynghyd â Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd.  O Lywodraeth Iwerddon, gwnaethom groesawu Micheál Martin TD, Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, a Simon Harris TD, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth.

Mae Fforwm Gweinidogol blynyddol Iwerddon-Cymru yn un o'r prif ymrwymiadau yng Nghyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2021-25, sy'n dod â Chymru ac Iwerddon yn agosach at ei gilydd, gan atgyfnerthu cysylltiadau er budd i'r ddwy ochr. 

Mae Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-25 yn cynnwys 6 maes cydweithredu ar faterion datganoledig, sef:

1.       Ymgysylltu ar Lefel Wleidyddol a Swyddogol

2.       Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd

3.       Masnach a Thwristiaeth

4.       Addysg ac Ymchwil

5.       Diwylliant, Iaith a Threftadaeth

6.       Cymunedau Cymry/Gwyddelod ar Wasgar, a Chwaraeon

Canolbwyntiodd themâu'r fforwm eleni ar gyfleoedd a rennir ym meysydd ynni adnewyddadwy, datblygu sgiliau ac iaith.  Cafodd rhaglen o ymweliadau yng Ngogledd Cymru ei chynnwys yn y fforwm hefyd – a oedd yn rhoi sylw i drafodaethau ynghylch y themâu allweddol ac yn llywio'r trafodaethau hynny, ac yn cynnig cyfle i ystyried dulliau o fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin yn y meysydd hyn. Ymhlith yr ymweliadau safle cysylltiedig oedd porthladd Caergybi, prosiect ynni Morlais, Ysgol Morswyn, M-SParc a Thŷ Gwyrddfai. Gwnaethom hefyd gynnal sesiwn gyda phartneriaid Agile Cymru er mwyn dod â'r hyn y gellir ei gyflawni mewn prosiectau ar y cyd yn fyw.

Wrth inni gyrraedd hanner ffordd drwy gyfnod 2021-25, gwnaethom ystyried y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf o ran y meysydd cydweithredu. Gwnaethom gytuno i barhau i weithio a dysgu gyda'n gilydd, a nodi meysydd newydd lle gallwn rannu gwybodaeth, megis ein cynlluniau coetir a thechnolegau iaith.

Mae hon yn berthynas arwyddocaol i Gymru gyda'n cymydog Ewropeaidd agosaf. Dangosodd eu presenoldeb pa mor bwysig yw hi i'r ddwy lywodraeth fod y bartneriaeth hon yn ymestyn ar draws pob rhan o Iwerddon a Chymru. Mae rhwydweithiau rhyngwladol eraill lle rydym yn gweithio gydag Iwerddon, er enghraifft Cyngor Gwyddelig Prydain, ond mae ein Cyd-ddatganiad yn creu perthynas ddwyochrog uniongyrchol sy'n ein galluogi i gydweithio ar feysydd datganoledig.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.