Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o ddweud bod fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau yn cael ei gyhoeddi heddiw. Datblygwyd y fframwaith i lywio ac ail-gydbwyso’r cyfrifoldeb dros fuddsoddi mewn sgiliau yng Nghymru rhwng y llywodraeth a chyflogwyr. Ein nod, drwy’r fframwaith, yw gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael er mwyn medru datblygu sgiliau a sicrhau ein bod yn datblygu mantais gystadleuol fel cenedl o ran creu gweithlu cynhyrchiol a medrus.

Rydym eisoes yn gwneud cynnydd gan weithio gyda chyflogwyr i ddylanwadu ar y modd y maent yn buddsoddi mewn sgiliau. Rhwng 2011 a 2013, gwelwyd y cyfanswm a wariwyd gan gyflogwyr Cymru ar hyfforddiant yn cynyddu o £1.5 biliwn i £1.6 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, mae canran y gweithlu sydd wedi cael hyfforddiant hefyd wedi codi o 56% yn 2011 i 62% yn 2013. Mae’r ffigurau hyn yn arwyddion calonogol ein bod yn symud i’r cyfeiriad iawn ac maent yn dangos parodrwydd ac ymrwymiad parhaus rhai o gyflogwyr Cymru i ddatblygu sgiliau eu gweithlu.    

Er gwaethaf hyn oll, mae llawer y gallwn ei wneud eto i ddylanwadu ar faint gaiff ei fuddsoddi mewn sgiliau yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn darparu mecanwaith i weithio gyda rhanddeiliaid i herio’r cyflogwyr hynny nad ydynt yn buddsoddi yn sgiliau eu gweithlu ar hyn o bryd a, lle y bo angen, i gydweithio â chyflogwyr i ddylanwadu ar y modd y maent yn buddsoddi mewn sgiliau – o safbwynt cyflenwi sgiliau, y galw am sgiliau ac ansawdd sgiliau. Bydd hyn hefyd yn caniatáu inni hefyd ysgogi rhagor o adnoddau i’r system sgiliau.

Mae’r fframwaith yn nodi’r buddsoddiadau hynny sydd dan arweiniad y llywodraeth a fydd yn parhau i gynnig llwyfan i gynorthwyo cyflogwyr i gymryd yr awenau i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar eu gweithlu. Mae’r buddsoddiadau hyn yn amlygu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i hybu seilwaith sgiliau Cymru.

Wrth weithio gyda chyflogwyr, rydym am sicrhau bod buddsoddi mewn sgiliau’n cael yr effaith fwyaf bosibl ar ein llwyddiant fel cenedl yn y dyfodol.  I lywio’r gwaith hwn, byddwn yn defnyddio’r fframwaith i adolygu atebolrwydd perfformiad ym mholisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio’r Mesurau Perfformiad Sgiliau a gyhoeddwyd ar 30 Medi i sicrhau ein bod yn mesur effaith y buddsoddiad mewn sgiliau yng Nghymru.  

Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i fuddsoddi yng nghyflogaeth a sgiliau pobl Cymru. Wrth inni symud ymlaen, rydym hefyd am i bob cyflogwr gydnabod eu cyfrifoldeb dros fuddsoddi yn sgiliau eu gweithlu.  Mae hon yn her hirdymor sy’n galw am newid diwylliannol ond mae’n fater y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef os ydym am gyrraedd ein prif nod, sef creu system sgiliau sy’n gynaliadwy’n ariannol yng Nghymru dros y degawd nesaf.