Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm cyffredinol sy’n disgrifio ffordd o gysylltu pobl o bob oedran a chefndir â’u cymuned er mwyn rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well.
Mae datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, ond nid yw presgripsiynu cymdeithasol yn rhywbeth newydd yng Nghymru. Mae’r egwyddorion yn rhan greiddiol o waith Llywodraeth Cymru i rymuso pobl a chymunedau.
Yn 2022, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori i ofyn am farn ar sut i ddarparu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Daeth dros 190 o ymatebion i law ac mae crynodeb o ohonynt yn cael ei gyhoeddi heddiw hefyd. Mae'r ymatebion hyn wedi cael dylanwad uniongyrchol ar ddatblygu'r fframwaith.
Mae ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wedi'u datblygu a'u sefydlu mewn dull o'r bôn i'r brig ledled Cymru, gyda darparwyr unigol dan gontract a chlystyrau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal, y trydydd sector a sefydliadau statudol yn datblygu modelau cyflenwi gwahanol.
Er ein bod yn croesawu'r dull llawr gwlad hwn, mae adborth o'n hymgynghoriad wedi datgelu heriau yn sgil diffyg safoni a chysondeb yn y dull presgripsiynu cymdeithasol. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys dryswch ynglŷn â manteision presgripsiynu cymdeithasol ymhlith y cyhoedd ac i’r gweithlu sy’n ei ddarparu neu sy’n dod i gysylltiad ag ef. Roedd yr heriau hefyd yn cynnwys trafferthion o ran cyfathrebu rhwng sectorau, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.
Er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â chysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ledled Cymru, ac ymateb i'r materion a godwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, mae'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn amlinellu'r model a ffefrir ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol, ac yn ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob lleoliad. Nid ei fwriad yw pennu sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu mewn cymunedau gwahanol, ond yn hytrach bydd yn cytuno ar weledigaeth gyffredin o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i ddatblygu ei dwf drwy gyflwyno safonau effeithiol o ansawdd uchel ar draws system gydgysylltiedig.
Dangosodd ein hymarfer ymgynghori yn ogystal fod angen gweithio'n fwy effeithiol mewn partneriaeth i sicrhau cynaliadwyedd ac osgoi dyblygu. Rwyf wedi ysgrifennu at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gofyn iddynt enwebu hyrwyddwr presgripsiynu cymdeithasol, i ddeall beth maent yn ei gynnig ar hyn o bryd, a'u gwahodd i weithio gyda ni i ddatblygu'r fframwaith ymhellach a'i roi ar waith.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r nifer mawr o unigolion a sefydliadau a ymatebodd i’r ymarfer ymgynghori ac a weithiodd gyda ni i greu ein cynlluniau. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau fy ngrŵp gorchwyl a gorffen.
Rwy’n gobeithio y bydd y fframwaith yn cefnogi dyfodol cynaliadwy hirdymor ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, gan helpu pobl i gysylltu â'r pethau sydd o bwys iddynt yn eu cymuned, ble bynnag yng Nghymru y bo hynny.