Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Esboniodd fy Natganiad Ysgrifenedig ('Diwygio’r Drefn Gyllido - parhau i wneud cynnydd a’r heriau sydd o’n blaenau) ar 1 Chwefror fod angen inni ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar y fframwaith cyllidol i Gymru a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu yn y dyfodol am y tymor hir.

Ar ôl misoedd o negodi manwl, mae'n galonogol bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban wedi dod i gytundeb ar y Fframwaith Cyllidol ar gyfer yr Alban. Mae'n anochel y bydd y negodiadau hynny’n gosod y dôn ar gyfer ein trafodaethau parhaus ar y fframwaith cyllidol i Gymru.

Darparodd Comisiwn Holtham ddadansoddiad trylwyr o sut y gallai'r grant bloc gael ei leihau i gyfrif am y refeniw o drethi datganoledig yng nghymru. Ategodd Comisiwn Silk y dadansoddiad hwnnw gan ddod i'r casgliad “y byddai’n amhriodol i Lywodraeth Cymru fod yn agored i’r holl risgiau sy’n gysylltiedig â datganoli pwerau trethu gan ei bod yn bosibl na fydd rhai o’r risgiau hynny’n ganlyniad i weithredoedd gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, mae’n briodol bod cyllid Cymru’n agored i’r risgiau sy’n gysylltiedig â dewisiadau gan Lywodraeth Cymru”.

Yr wyf bob amser wedi haeru y dylai cyllideb Llywodraeth Cymru ysgwyddo'r risgiau ac elwa ar effaith ei phenderfyniadau ar drethi datganoledig. Serch hynny, os yw polisi trethi yng Nghymru’n parhau’r un fath ag yng ngweddill y DU ac os bydd twf  mewn refeniw y pen o drethi datganoledig yn cyfateb i’r twf yng ngweddill y DU, ni ddylai fod unrhyw effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n gyson â chasgliadau Comisiwn Silk a'r egwyddor "no detriment" a amlinellwyd gan Gomisiwn Smith ar gyfer yr Alban.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig nifer o ddulliau o addasu’r grant bloc yn yr Alban a oedd yn groes i egwyddor “no detriment”. O gymhwyso methodoleg o'r fath i’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru, byddai goblygiadau sylweddol ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu derbyn y telerau hynny ac nid dyma oedd sylfaen cytundeb y Cynulliad mewn perthynas â datganoli Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi i Gymru.

Mae wedi bod yn glir yn ystod y trafodaethau yn yr Alban bod y dull didynnu wedi’i fynegrifo y pen sy’n cael ei arddel gan Lywodraeth yr Alban yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rhannu risg yn briodol rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraethau’r DU.  Mae'n bwysig inni fynd ati yn awr i adolygu'r manylion y cytundeb yn yr Alban. Er hynny, mae’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd heddiw’n casglu’n gywir na all y gwrthbwysiad i’r grant bloc addasu’r grant bloc yn y ffordd gywir i gyfrif am yr holl newidiadau posibl ym mholisi Llywodraeth y DU. Dyna pam mae'n bwysig adolygu’r trefniadau i sicrhau eu bod yn deg ac nad ydynt yn gwneud cyllideb Llywodraeth Cymru yn agored i risgiau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth

Bu galwadau mynych am gorff annibynnol i adolygu trefniadau cyllidol yn y DU. Mae’r  cyhoeddiad ynghylch corff annibynnol i adolygu'r fframwaith ariannol ar gyfer yr Alban yn gosod cynsail ar gyfer y trefniadau yng Nghymru. Byddaf yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau tebyg ar gyfer Cymru i gynnwys pob agwedd ar ein trefniadau cyllidol gan gynnwys proses adolygu briodol ar gyfer ein arian gwaelodol i sicrhau cytundeb ariannu hirdymor teg i Gymru.

Mae trafodaethau tyngedfennol o'n blaenau wrth inni geisio sefydlu fframwaith ariannol teg i Gymru sy'n cymryd i ystyriaeth priodoleddau ein sylfeini trethi, ein cyfrifoldebau datganoledig, ac sy’n neilltuo’r risg priodol i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phroses adolygu annibynnol briodol ar gyfer y fframwaith, gan gynnwys y cyllid gwaelodol, byddai hyn yn setliad teg a diogel i Gymru ar gyfer y tymor hir.