Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rheol ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae'r GIG yng Nghymru yn brysur ac yn paratoi ar gyfer pwysau arferol y gaeaf. Ond mae eleni yn wahanol i unrhyw flwyddyn arall. Mae cydbwyso anghenion y rhai sydd â chyflyrau brys ac argyfwng, yn ogystal â'r rhai â gofal dewisol ac arferol, erioed wedi bod yn her ond eleni bu angen ffactora COVID-19 i mewn hefyd. 

Byddai sefydliadau'r GIG fel rheol yn datblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd (IMPTs), gan ddarparu cynllun i symud eu sefydliadau ymlaen i wella canlyniadau i gleifion. Mae'r ddyletswydd statudol i gynhyrchu IMTPs yn deillio o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006, a Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 i fyrddau iechyd fantoli'r cyfrifon dros gyfnod cyfrifyddu tair blynedd. Ond nid yw'r cyfnod hwn yn un arferol.

Rhaid inni daro cydbwysedd wrth inni ddysgu byw a gweithio gyda COVID-19. Y ‘pedwar niwed’ yw ein fframwaith strategol:

  • Niwed o COVID-19:
  • Niwed o system GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi’i gorlethu
  • Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID-19, a
  • Niwed o gamau gweithredu ehangach mewn cymdeithas, ee cyfyngiadau symud

Mae angen i'r GIG gydbwyso'r gwaith yn briodol i leihau'r niwed, ond mae'n anodd taro'r cydbwysedd cywir.

Mae datblygu a chyhoeddi Fframwaith Cynllunio Blynyddol ar gyfer 2021-22 heddiw'n gam pwysig ymlaen wrth gydnabod sut i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Mae'n caniatáu i'r GIG ddechrau meddwl am sefydlogi ac adfer, hyd yn oed yng nghanol yr amgylchedd gweithredol presennol.

Mae dull gweithredu'r Fframwaith Cynllunio Blynyddol yn gam naturiol ymlaen o'r trefniadau cynllunio chwarterol a gefnogir yn 2020-21. Byddai'n heriol symud yn ôl i IMTPs tair blynedd yn syth ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn amgylchedd cynllunio llawn newid.  Mae'r Fframwaith Cynllunio Blynyddol 2021-22 yn pennu'r cyfeiriad am y  flwyddyn o'n blaenau. Mae'n ceisio cysoni'r anghenion am ffocws gweithredol yn awr â'r angen i fod yn ymwybodol o'r amcanion tymor hwy a nodir yn Cymru Iachach, a gofynion deddfwriaethol eraill hy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).  

Rwyf yn ymwybodol, wrth gwrs, fod perygl y bydd paratoi cynllun tair blynedd yn ystod cyfnod heriol y gaeaf yn dargyfeirio staff allweddol i ffwrdd o reolaeth weithredol ar wasanaethau yn ystod y cyfnod hwn.  O gofio bod y sefyllfa y flwyddyn nesaf yn debygol o aros yn wamal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf wedi penderfynu adeiladu yn raddol ar y trefniadau chwarterol trwy fynnu bod cynllun blynyddol ar gyfer 2021/22.

Trwy fabwysiadu'r dull gweithredu hwn nid yw'n negyddu dyletswyddau statudol byrddau iechyd i gynhyrchu cynllun yn nodi eu hamcanion strategol a’u cyfrifoldebau ariannol. Er hynny, mae'n fwriad gennyf osgoi unrhyw feirniadaeth ormodol ar y system trwy bennu cyfarwyddiadau clir trwy gyhoeddi'r fframwaith hwn. Mae craffu a chymorth ariannol ychwanegol ar hyn o bryd mewn perthynas â chynlluniau'r GIG ac rwyf yn disgwyl i hynny barhau drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod. 

Mae'r fframwaith cynllunio hwn wedi'i gadw'n fyr ac yn gryno yn fwriadol. Er bod angen inni gynllunio, rhaid inni fod yn barod i fod yn hyblyg gan fod yr amodau yr ydym yn gweithio o'u mewn yn newid yn gyflym iawn yn aml. Rwyf yn deall yr amgylchedd heriol yr ydym oll yn gweithio ynddo, ond mae'n bwysig inni gynllunio gyda'n gilydd ar gyfer 2021-22 i sicrhau y gallwn i gyd elwa ar system iechyd a gofal cymdeithasol gref a chynaliadwy ac i wella canlyniadau i boblogaeth Cymru at y dyfodol.

Rwyf yn hynod o ddiolchgar am y gwaith y mae staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i’w wneud. Bydd cydweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer 2021 yn ein galluogi i drin nid yn unig y rhai sydd â COVID-19 ond hefyd i sicrhau bod y GIG ar gael i bawb.  Bydd hyn a phopeth arall y mae'r cyhoedd yn ei wneud yn helpu i ddiogelu Cymru.

https://llyw.cymru/fframwaith-cynllunio-blynyddol-gig-cymru-2021-i-2022