Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed wrth gwblhau manylion y gwaith mewn perthynas â Fframwaith newydd Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16.   

Mae Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn amlinellu'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi'n rheolaidd am bob ysgol a pha wybodaeth yr ydym yn gofyn i ysgolion drefnu ei bod ar gael. Mae hyn yn cefnogi ein nod o sicrhau ffordd fwy cyflawn, cytbwys a thryloyw o edrych ar brofiadau a deilliannau dysgwyr sy'n adlewyrchu'n uniongyrchol yr Hawl i Ddysgu 14 i 16. 

Mae ein dull gweithredu yn cefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru ac yn cyd-fynd ag egwyddorion yr ecosystem wybodaeth sy'n sail i'r ffordd y caiff data a gwybodaeth eu defnyddio.

Rydym wedi gweithio'n agos â phartneriaid ar draws y sector addysg i ddatblygu'r Fframwaith. Trwy drafodaethau agored a phrosesau ymgysylltu adeiladol, mae'r ffordd y mae'r dangosyddion 14 i 16 newydd wedi'u cynllunio – a'n dull o adrodd – yn hyrwyddo tryloywder ac yn gwylio rhag effeithiau negyddol anfwriadol ar ddysgwyr ac ysgolion. 

Mae manylion amcan y dangosyddion 14 i 16 newydd a'r trefniadau adrodd ar ein gwefan Hwb erbyn hyn.  Rydym wedi cadarnhau nodweddion fel diffiniad o'r garfan sy'n cael ei defnyddio, yr ystod benodol o gymwysterau sy'n cael eu cynnwys yn ein hadroddiadau, a sut rydym yn bwriadu cyflwyno'r rhain ar ein llwyfan cyhoeddus.

Byddwn yn dechrau defnyddio'r trefniadau newydd hyn am y tro cyntaf wrth adrodd ar ddeilliannau haf 2027, gan gyd-daro â'r adeg y bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr 14 i 16 yn cwblhau Blwyddyn 11 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn cynllunio ac yn datblygu offer a systemau digidol newydd i gefnogi'r gwaith o adrodd ar ddata a'u defnyddio. Mae hyn yn cynnwys llwyfan newydd Fy Ysgol Leol, sy'n galluogi'r cyhoedd i weld data a gwybodaeth, yn ogystal â chyfleusterau adrodd a fydd yn cryfhau defnydd ysgolion ac awdurdodau lleol o ddata wrth lywio eu prosesau hunanwerthuso a gwella.

Byddwn yn sicrhau bod ysgolion a rhanddeiliaid yn cael eu cefnogi wrth inni fwrw ymlaen â gweithredu'r trefniadau adrodd newydd, gan sicrhau bod hyfforddiant ac arweiniad yn cael eu ddarparu fel rhan o'r systemau newydd.