Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r aelodau fy mod yn bwriadu datblygu Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. Bydd y Fframwaith yn sail i’r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 i wella cyfle cyfartal i bobl anabl, cael gwared ar wahaniaethu a meithrin perthynas dda. Mae dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru, ac awdurdodau cyhoeddus eraill, bennu amcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau er mwyn sicrhau gwelliannau mesuradwy ym mywydau pobl.

Bydd y Fframwaith Gweithredu yn nodi meysydd lle mae angen cymryd camau ac yn sicrhau ein bod yn tynnu ynghyd mewn un cynllun cyflawni cydlynol y llu o bolisïau a strategaethau sydd eisoes yn cefnogi byw’n annibynnol. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion y gwaith a wneir ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a hefyd ar y cyd â’n partneriaid allanol i hwyluso byw’n annibynnol. Bydd y fframwaith yn seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, a gafodd ei fabwysiadu yn 2002, sy’n hyrwyddo’r ddirnadaeth mai ein cymdeithas sy’n creu rhai anableddau trwy ei hagweddau a nodweddion ffisegol ei hamgylchedd. Dyma fodel cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar gael gwared ar y rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant.

Rwyf am weld pob dinesydd yng Nghymru yn cael ei barchu a’i gynnwys fel aelod cyfartal o’n cymdeithas, ac rwyf am i bob un ohonom gael y cyfle i wireddu ein potensial. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi pobl anabl trwy ei gwneud yn haws iddynt fynd at wasanaethau a chreu cyfleoedd iddynt gymryd rhan lawn yn ein cymdeithas.