Neidio i'r prif gynnwy

Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf am hysbysu'r Aelodau heddiw am waith sydd ar y gweill i sefydlu fframwaith moesegol a fydd yn pennu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r sector amddiffyn. Bydd yr opsiynau cychwynnol sy'n cael eu hystyried, ynghyd â'r opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth a'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yr hydref hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydsefyll gyda gwledydd eraill ac i egwyddor cyfraith ryngwladol. Rydym wedi mynegi gwrthwynebiad cyson i ddarparu arfau neu gymorth milwrol lle mae risg amlwg y gellid eu defnyddio i gyflawni tor-cyfraith ddyngarol ryngwladol ddifrifol neu dor-cyfraith difrifol ym maes hawliau dynol rhyngwladol, neu yn wir i hwyluso tor-cyfraith o'r fath. Nid yw'r safbwynt hwnnw wedi newid.

Nid yw cefnogi'r gweithwyr a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y sector a chynnal ein hymrwymiadau i heddwch, hawliau dynol a chyfraith ryngwladol yn amcanion sy'n gwrthdaro â'i gilydd. Bwriad y fframwaith hwn yw diogelu'r naill a'r llall.

Rydym hefyd yn cydnabod rôl gyfreithlon y sector amddiffyn wrth warchod cymdeithasau democrataidd. Mae'r diwydiant awyrofod ac amddiffyn yn cyflogi tua 16,000 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector a chyda phartneriaid undebau llafur i ddiogelu cyflogaeth a buddsoddiad.

Fodd bynnag, ni all cefnogaeth gyhoeddus i'r sector fod yn ddiamod. Dylai ymwneud Llywodraeth Cymru â'r sector, ei chefnogaeth iddo a'i buddsoddiad ynddo fod yn ddarostyngedig i egwyddorion moesegol clir a chredadwy. Nid oes fframwaith o'r fath wedi bodoli o'r blaen, ac ymrwymodd y Llywodraeth hon i'w sefydlu heb oedi.

Bydd y fframwaith yn nodi'r egwyddorion a'r meini prawf ar gyfer unrhyw ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector amddiffyn, gan gynnwys yr amgylchiadau lle na ddarperir cymorth. Bydd yn berthnasol i holl weithgarwch Llywodraeth Cymru: cymorth ariannol i gwmnïau a phrosiectau unigol, gwaith mewnfuddsoddi, teithiau a digwyddiadau masnach, ac ymgysylltu ehangach â'r sector.

Wrth ddatblygu'r fframwaith, mae swyddogion yn tynnu ar drafodaethau gyda llywodraethau datganoledig eraill, ac yn ystyried dulliau a fabwysiadwyd mewn gweinyddiaethau eraill. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys diwydiant, wrth ddatblygu'r fframwaith.

Bydd y fframwaith yn darparu, am y tro cyntaf, sail glir a phenodol ar gyfer camau ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector amddiffyn. Y bwriad yw cefnogi gweithgarwch economaidd a chyflogaeth gyfreithlon, gan sicrhau ar yr un pryd bod y gefnogaeth gyhoeddus yn gyson â gwerthoedd y Llywodraeth hon. Bydd hefyd yn cefnogi arloesi, arallgyfeirio a chyfleoedd deublyg, gan helpu cwmnïau a gweithwyr Cymru i ddatblygu technolegau a sgiliau sy'n berthnasol i gyd-destunau sifil ac amddiffyn.

Fel rhan o'r broses o ddatblygu'r fframwaith, rwyf hefyd wedi ei gwneud yn glir y dylai'r holl benderfyniadau sy'n ymwneud â buddsoddi yn y sector amddiffyn gael eu gohirio, lle bo hynny'n gyfreithiol ac yn ymarferol bosibl, tan ar ôl i'r fframwaith gael ei gyhoeddi. Wrth ystyried pob ymgysylltu a buddsoddi yn y dyfodol, dylid gwneud hynny yng ngoleuni'r fframwaith.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Aelodau maes o law ar y broses o gwblhau'r fframwaith yn derfynol.