Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae fframwaith newydd ar gyfer perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei lansio heddiw, gan ymateb i argymhellion a wnaed yn adolygiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd o'r targed ar gyfer ymatebion ambiwlans coch wyth munud i alwadau 999.
Bydd yn blaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion mwyaf argyfyngus, ac yn helpu i gyflymu gwelliannau mewn cyfraddau goroesi i’r rheini sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Fel yr wyf wedi ei amlinellu o'r blaen i'r Aelodau, bydd dau gategori newydd yn cael eu creu i ymateb i’r galwadau 999 mwyaf difrifol lle mae bywyd yn y fantol: sef categori porffor i'r rheini y mae amheuaeth eu bod yn dioddef ataliad y galon ac anadlol, a chategori argyfwng coch i’r rheini sydd mewn perygl difrifol o ddioddef ataliad y galon ac anadlol, gan gynnwys lle mae hynny o ganlyniad i anaf neu salwch.
Disgwylir i ambiwlansys ymateb i'r galwadau hyn mewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd. Ond y prif fesur perfformiad ar gyfer galwadau 999 porffor fydd canran y bobl y mae curiad eu calonnau’n cael ei adfer a'i gynnal ar ôl ataliad y galon nes iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Er mwyn sicrhau bod pob person sy'n ffonio 999 yn elwa ar ddull gweithredu sydd wedi ei deilwra mwy i anghenion y claf a lleoliad y digwyddiad, cwblheir proses sgrinio clinigol cyflym i bawb nad yw eu galwad wedi'i chategoreiddio fel un borffor neu goch. Bydd pob person yn cael ymateb wedi'i deilwra, ond ni fydd angen ambiwlans ar bawb, ac mae'n bosibl y bydd rhywun yn cael ymateb clinigol gwahanol sy'n briodol i'w anghenion.
Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod hefyd wedi comisiynu adolygiad cam dau o'r safonau ymateb ambiwlans brys categori oren. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar ganlyniadau'r gwaith hwn maes o law.
Er mwyn cefnogi'r newidiadau, gan helpu i achub mwy o fywydau mewn achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, rwyf wedi neilltuo £500,000 ychwanegol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i osod 500 yn fwy o Ddiffibrilwyr Allanol Awtomatig (AEDs) mewn lleoliadau cymunedol strategol. O yfory ymlaen, bydd Achub Bywyd Cymru yn trosglwyddo i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Os ydym am wireddu manteision llawn y newidiadau hyn, rhaid i'r GIG fynd ati ar frys i flaenoriaethu gwelliannau i'r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i adran argyfwng yr ysbyty. Mae gormod o bobl yn wynebu gormod o oedi ar hyn o bryd, sy'n arwain at niwed y gellir ei osgoi, gan gynnwys i gleifion unigol; hefyd mae'n effeithio ar forâl staff y GIG ac ar argaeledd ambiwlansys i ymateb i alwadau 999 eraill yn y gymuned.
Mae adroddiad annibynnol Getting it Right First Time (GIRFT) a hefyd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG wedi ategu'r angen i newid. Felly, heddiw, rwy'n cyhoeddi Tasglu Trosglwyddo-45 Cenedlaethol i helpu’r byrddau Iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i weithredu gwelliannau ar draws y system er mwyn gwella'r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
Bydd y Tasglu’n gwneud y canlynol:
- Datblygu llwybrau clinigol effaith sylweddol, gan helpu i'w darparu yn y gymuned
- Cefnogi'r gwaith o gyflwyno prosesau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn adrannau argyfwng
- Helpu i weithredu prosesau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella llif y cleifion o adrannau argyfwng i wardiau, a sicrhau bod y trefniadau rhyddhau cleifion mor effeithlon â phosibl
Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth asesu a chefnogi parodrwydd GIG Cymru i drosglwyddo pob claf ambiwlans o fewn 15 munud cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, ond bob amser o fewn 45 munud.
Bydd y tasglu yn cael ei arwain gan:
- Jennifer Winslade Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- James Severs – Cyfarwyddwr Gweithredol y proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
- Dr David Fluck – Cyfarwyddwr Gweithredol meddygaeth fanwl a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Andy Swinburn – Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth, Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Liam Williams – Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Byddant yn cael eu cefnogi gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.
Bu rhai arwyddion calonogol o ran gwelliant yn ystod yr wythnosau diwethaf o ganlyniad i strategaethau lleol. Bydd y dulliau gweithredu hyn yn cael eu rhannu gyda'r holl fyrddau iechyd, a hefyd bydd y tasglu yn tynnu ar ddiwylliannau, prosesau, a modelau llwyddiannus eraill o bob rhan o'r DU.
Bydd y tasglu yn gyfrifol am ddarparu ymateb i gwympiadau yn y gymuned, a llwybrau diffyg anadl – y ddau reswm mwyaf cyffredin dros alwadau 999 yng Nghymru. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans wella rheolaeth ar gyfer pobl sydd wedi cwympo, trwy ddarparu mwy o ofal yn nes at adref a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu cludo i adrannau argyfwng ac yn cael eu derbyn wedyn i'r ysbyty, heb fod unrhyw anaf ganddynt neu eu bod wedi dioddef mân anaf - sef lleihad o 10% yn y nifer erbyn diwedd mis Rhagfyr a 25% erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Rwyf wedi rhoi £18.8m ychwanegol i fyrddau iechyd ar gyfer gweithredu eu cynlluniau ar gyfer rhaglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a fydd yn cyfrannu tuag at amcanion y tasglu.
Rwy'n disgwyl i holl sefydliadau'r GIG flaenoriaethu gweithio gyda'r tasglu er mwyn gwella gofal brys a gofal mewn argyfwng, a chanlyniadau i bobl.
