Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau fod eu penderfyniadau a’u camau gweithredu yn ystyried barn pobl ar draws Cymru. Mae arolygon yn cael eu defnyddio i helpu i dargedu adnoddau yn effeithlon ac effeithiol .

Cyn bod arolwg yn cael ei gomisiynu, mae'n mynd drwy broses gymeradwyo i asesu os yw’r arolwg yn un angenrheidiol, a fydd yn darparu data cadarn, ac yn cael ei gynnal yn y modd mwyaf cost-effeithiol. Mae opsiynau yn cael eu hystyried bob amser  i weld os yw’n fwy cost-effeithiol i wneud defnydd o'r data sy'n bodoli eisoes, i ddiwygio arolwg presennol neu i gynnal arolwg newydd.

Ers yr hydref 2011, rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i’n prosesau cymeradwyo arolwg ac yn datblygu Fframwaith Strategol ar gyfer arolygon yng Nghymru. Mae hwn yn nodi pa fath o wybodaeth mae’r  arolygon yn casglu, sut mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio, y prosesau sydd yn cael ei ddefnyddio i wella ansawdd yr arolygon, a’r gwaith sydd ar y gweill i wneud mwy o ddefnydd o’r ffynonellau data sy’n bodoli. Cafodd y Fframwaith ei chyhoeddi ar ein gwefan ar 26 Gorffennaf. Yn ogystal â nodi gwybodaeth ar sut y mae arolygon yn cael eu comisiynu a'u rhedeg, bydd y Fframwaith yn ein helpu i ddatblygu a hyrwyddo arferion da o gynnal arolwg, lleihau'r baich ar ymatebwyr arolwg, a sicrhau bod canlyniadau arolygon yn cael eu defnyddio cymaint ag y bo modd.

Rwy'n croesawu'r camau a gymerir i wneud y gorau o'r ffynonellau gwerthfawr o wybodaeth yma.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.