Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o'n huchelgais parhaus mewn perthynas â’r Warant i Bobl Ifanc yng Nghymru, rydym wedi cynllunio rhaglen hyblyg newydd a fydd yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Gall rhaglen arloesol Twf Swyddi Cymru+ greu cyfleoedd sy'n newid bywydau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r effaith y mae Covid wedi'i chael ar bobl ifanc.  Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddarparu cyfleoedd i greu unigolion gwydn sydd â'r sgiliau, y brwdfrydedd, yr egni a'r creadigrwydd i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u gallu, eu cefndir, eu rhyw neu eu hethnigrwydd. Ein nod yw rhoi'r sgiliau a'r hyder i bobl ifanc gyflawni eu potensial mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Mae rhaglenni etifeddol presennol Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran helpu pobl ifanc i ennill sgiliau a phrofiad hanfodol i'w helpu i gymryd eu camau cyntaf yn y byd gwaith. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a chwaraeodd ran bwysig wrth gyflwyno'r rhaglenni hyn.

Rydym wedi cymryd elfennau gorau pob un o'r rhaglenni hyn ac wedi creu cynnig newydd cyffrous.  Bydd y rhaglen yn cefnogi pobl ifanc drwy gynnig cyngor ac arweiniad diduedd a manwl ar yrfaoedd yn dilyn asesiad cadarn o'u hanghenion unigol. Bydd mentora, cyngor, hyfforddiant ac addysg ar gael i bobl ifanc fel eu bod yn cael eu hysgogi i wneud dewisiadau gwybodus ac i ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith teg neu i ddechrau busnes. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd gwaith sydd wedi'u teilwra a fydd yn cael cymhorthdal o 50% o'r isafswm cyflog cenedlaethol.

Hoffwn hysbysu'r Aelodau bod y broses gaffael ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ bellach wedi'i chwblhau a bod llythyrau dyfarnu wedi'u hanfon at y contractwyr llwyddiannus.

Gan fod y rhaglen newydd hon yn elfen allweddol o'n Gwarant i Bobl Ifanc, mae'n rhywbeth rwy'n gwybod y bydd gan aelodau ddiddordeb brwd ynddo. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi i gyd wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.