Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 29 Tachwedd, cyhoeddais fy ymateb cychwynnol i'r cyngor a gafwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ynghylch strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru. Nodais fy mod o'r farn bod CCAUC wedi cyflwyno dadl sy’n argyhoeddi o blaid uno Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, i greu prifysgol wirioneddol 'fetropolitan' yn y De-ddwyrain, a fydd yn cymharu â'r rheini mewn ardaloedd dinesig tebyg eu maint ledled y DU.  

Roedd Er Mwyn Ein Dyfodol, ein strategaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen newid yn sylfaenol ffurf, strwythur, a darpariaeth addysg uwch. Fy nod o hyd yw sicrhau bod y sector yn addas i'r diben, a'i fod yn barod i wynebu'r heriau sydd i ddod yn y dyfodol. Rwyf wedi bod yn glir fy mod am weld nifer llai o brifysgolion yng Nghymru, a’r prifysgolion hynny yn rhai cryfach. Yn ardal y De-ddwyrain yn benodol, mae angen cynnig darpariaeth AU sy'n fwy cydlynol, sy'n gynaliadwy ac sy'n fwy cytbwys yn ddaearyddol; darpariaeth a fydd yn adeiladau ar gryfderau'r sefydliadau unigol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Byddai'r dull hwn yn helpu i greu portffolio academaidd a galwedigaethol o bwys ym marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol. Byddai'n sicrhau bod y tri sefydliad sy'n annibynnol ar hyn o bryd yn gallu ymateb yn well fel un sefydliad i'r heriau sy'n wynebu'r sector AU. Yn benodol, mae'r rhain yn cynnwys cyfrannu mwy i ddatblygu’r economi ac i ddiwallu'r angen am weithlu medrus, a chwarae rôl bwysig yn y cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol ehangach y mae sefydliadau Addysg Uwch yn gweithredu ynddo.

Byddai un brifysgol ôl-92 gadarn a chystadleuol yn y De-ddwyrain yn datblygu ar y gwaith a wnaed ar y cyd hyd yma drwy gyfrwng Prifysgol Blaenau'r Cymoedd, gan hyrwyddo parhad o AB i AU a llwybrau eraill, a chymorth i fusnesau. Byddai hefyd yn cynnig cyfle i'r sefydliadau hyn ddatblygu darpariaeth ar draws yr ardal ymhellach, er mwyn osgoi dyblygu a chyrraedd cynulleidfa fwy eang. Byddai dod ag adnoddau ynghyd fel un sefydliad mwy o faint yn golygu ei bod mewn sefyllfa i dreiddio'n well i ardal Gwent, er enghraifft, a datblygu mwy o ddarpariaeth AU i ddysgwyr yn ardal Caerdydd. Byddai sylfaen gadarnach ar gyfer cydweithio hefyd yn hwyluso cynnydd gyda’r gwaith sy'n cael ei gynnal drwy Grŵp Llywio Strategaeth Ranbarthol y De-ddwyrain, er enghraifft.  

Byddai gan y sefydliad newydd 27,180 o fyfyrwyr amser llawn, hy israddedigion ac ôl-raddedigion (cafwyd y ffigurau o data  2009/10 HESA). Mae hynny'n cymharu â 27,185 ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, 21,845 ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a 21,240 ym Mhrifysgol Plymouth. Mae'r cymariaethau hyn oll yn seiliedig ar ddata 2009/10.  

Rwy'n cydnabod bod gan bob sefydliad gryfderau mewn meysydd penodol, o ran addysgu ac ymchwil, ar draws meysydd fel busnes a rheoli, y celfyddydau perfformio a dylunio a datblygu cynnyrch. Byddai un sefydliad unigol yn manteisio ar y cryfderau hyn, gan gynnig cyfle hefyd i gyrraedd màs critigol o ran ansawdd y ddarpariaeth addysgu ac wrth gystadlu am arian ymchwil. Byddai'n datblygu ar gryfderau'r sefydliadau presennol ac yn eu datblygu yn un fframwaith mwy o faint, a fyddai'n fwy cynaliadwy. Rwyf i o'r farn y byddai hyn o fudd cadarnhaol i ddysgwyr.

Mae pob un sydd â diddordeb mewn addysg uwch wedi cael cyfle i wneud sylwadau ar gynigion CCAUC. Byddaf yn awr yn cychwyn trafodaethau ag iddynt fwy o ffocws gyda Phrifysgol Cymru, Casnewydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Morgannwg, ar yr opsiynau ar gyfer creu un sefydliad yn y De-ddwyrain. Byddaf yn gofyn am farn cynrychiolwyr o blith staff a myfyrwyr y tri sefydliad hwn. Byddai'n well gen i weld sefydliadau yn uno yn wirfoddol, yn hytrach na chael eu gorfodi i wneud hynny. Bydd y trafodaethau hyn yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr ar bob lefel yn y sefydliadau i fynegi eu barn ar sut fyddai orau i fynd ati i greu un sefydliad.