Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn ymrwymiad a wnaed mewn Cyfarfod Llawn ar 2 Ebrill 2014, rwy'n darparu datganiad ysgrifenedig ynghylch ffynonellau ariannu ar gyfer busnesau yn ystod y treialu i gau cyffordd 41 yr M4

Mae pennu nid yn unig y manteision ond hefyd unrhyw effeithiau negyddol yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau'r treial. Dyna pam, ar ôl ystyried yn ofalus ac ystyried unrhyw bryderon, diwygiwyd y dull o dreialu fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ogystal, rydym yn parhau i fonitro nifer yr ymwelwyr a pharcio yn yr ardal i sicrhau y gellir mynd i'r afael yn briodol ag unrhyw effaith a gaiff y treialu drwy gynlluniau Ardrethi Busnes agored presennol megis Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru a hefyd welliannau pellach allai fod yn ofynnol, er enghraifft y cynllun cryfach ar gyfer Anghenion Lleol.

Gall busnesau hefyd gael mynediad at yr ystod eang o wybodaeth, cymorth a chyngor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ehangach yng Nghymru drwy gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 60 3000 neu fynd i www.busnes.cymru.gov.uk. Byddwn hefyd yn edrych ar drefnu cymhorthfa galw heibio Busnes Cymru mewn lleoliad addas ym Mhort Talbot.