Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Trist iawn oedd clywed cyhoeddiad heddiw fod Flybe wedi rhoi'r gorau i weithredu. Mae'r newyddion yma wedi effeithio ar nifer o feysydd awyr rhanbarthol ar draws y DU gan gynnwys Caerdydd ac rwy'n cydymdeimlo â holl weithwyr Flybe a'r holl deithwyr y mae'r newyddion yma wedi effeithio ar eu cynlluniau teithio.

Am y tro ni ddylai teithwyr a oedd yn bwriadu hedfan o Gaerdydd gyda Flybe deithio i'r Maes Awyr. Mae cyngor ar gael ar wefannau Maes Awyr Caerdydd a'r Awdurdod Hedfan Sifil.

Maes Awyr Caerdydd: www.cardiff-airport.com

Yr Awdurdod Hedfan Sifil: www.caa.co.uk/News/Advice-to-UK-consumers-following-Flybe-entering-administration/

Bydd y teithiau awyr i Ynys Môn, Teeside ac Aberdeen yn parhau heb unrhyw newid gydag Eastern Airways.

Mae Flybe wedi cael effaith bositif iawn ar Faes Awyr Caerdydd, gan gyfrif am 24% o'r teithwyr. Eto i gyd, gan fod Maes Awyr Caerdydd wedi cymryd camau blaengar yn ddiweddar er mwyn arallgyfeirio a gwella ei gynaliadwyedd ariannol mae'r incwm sy'n deillio o deithiau Flybe yn cynrychioli tua 5.6% o'i refeniw. Er y bydd hi'n anodd i Faes Awyr Caerdydd wynebu'r golled hon nid yw mewn perygl.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â'i holl bartneriaid. Rwyf wedi cynnal trafodaethau brys â Phrif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd a'i thîm ac wedi siarad â Llywodraeth y DU ynghylch sut i liniaru effaith y newyddion yma. Byddaf yn cynnal rhagor o gyfarfodydd o'r fath gydol y dydd ac rwyf hefyd wedi cysylltu â llefarwyr yr wrthblaid yn y Cynulliad.

Mae Maes Awyr Caerdydd wrthi'n trafod â nifer o gwmnïau awyr y cyfleoedd i gwmnïau eraill gymryd cyfrifoldeb am gyn lwybrau teithio Flybe o Faes Awyr Caerdydd. Rydym yn canolbwyntio am y tro ar sicrhau darpariaeth yn lle'r llwybrau teithio domestig craidd yr arferai Flybe eu darparu ar gyfer y rhanbarth. Rwy’n falch iawn fod Logan Air eisoes wedi cytuno i dderbyn y cyfrifoldeb am dros 16 o lwybrau teithio, gan gynnwys y llwybr teithio rhwng Caeredin a Chaerdydd. Bydd teithiau dyddiol yn cychwyn ar 23 Mawrth 2020 a bydd 10 o deithiau bob wythnos o fis Medi ymlaen.

Mae meysydd awyr rhanbarthol ar draws y DU o dan gryn bwysau a bydd y newyddion ynghylch Flybe yn gwaethygu'r pwysau hyn. Gallai Llywodraeth y DU fod wedi osgoi'r newyddion yma drwy gynnig cymorth rhagweithiol i Flybe, gan eu helpu yn ystod y sefyllfa ariannol hon. Mae'r ffaith eu bod wedi dewis peidio â gwneud hyn wedi arwain at ganlyniadau trychinebus i'r gweithlu a'u teuluoedd.

Hoffwn nodi'n gwbl glir fod angen i Lywodraeth y DU bellach weithredu ar fyrder, gan fynd ati o ddifrif i gynnal yr adolygiad o gysylltedd rhanbarthol sydd ar y gweill ganddi. Mae'n rhaid iddi hefyd ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr a rhoi'r cydsyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi galw amdano ers cryn amser fel y gall agor rhagor o lwybrau teithio o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus. 

Byddwn yn cynnig pob cefnogaeth a hefyd yn darparu, lle y bo'n briodol, gymorth i'r unigolion y bydd y newyddion yma'n effeithio arnynt drwy Gyrfa Cymru a'n rhaglen ReAct.

Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.