Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddydd Mercher 3 Ebrill, cyhoeddodd Flybe y byddai'n rhoi'r gorau i nifer o lwybrau ac yn cau ei safle ym Maes Awyr Caerdydd ddiwedd haf 2019, a hynny'n sgil penderfyniad i leihau ei weithrediadau hedfan awyrennau.

Rwyf yn siŵr y bydd hyn yn newyddion gofidus iawn i staff Flybe a fydd yn colli eu swyddi. Rwyf yn meddwl amdanynt a'u teuluoedd.

Ers cael ei brynu yn 2013, mae Maes Awyr Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth ac wedi gweld cynnydd o 60% yn nifer y teithwyr. Mae nifer y cyrchfannau wedi cynyddu'n sylweddol a chafodd Cymru sylw byd-eang mawr y llynedd, pan lansiodd Qatar Airways hediad pellter hir dyddiol i'w ganolfan yn Doha.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cael ei weithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru ac mae'n gyfrifol am y gweithgareddau masnachol a'r berthynas â chwmnïau hedfan unigol. Roedd penderfyniad Flybe i leihau ei weithrediadau ym Maes Awyr Caerdydd yn un masnachol a wnaed gan y gweithredwr; nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r penderfyniad.

Hyd yn oed gan ystyried penderfyniad Flybe, mae cwsmeriaid cwmnïau hedfan eraill yn parhau i ddangos mwy a mwy o hyder yn y maes awyr a'i farchnad. Mae TUI, Thomas Cook a Ryan Air yn benodol i gyd wedi ychwanegu capasiti a chyflwyno llwybrau newydd ar gyfer yr haf.

Mae penderfyniad Flybe yn tynnu sylw unwaith eto at y pwysau masnachol sydd ar gwmnïau hedfan rhanbarthol, yn enwedig yn sgil y Doll Teithwyr Awyr. Yn 2017, daeth Flybe â'r llwybr awyr o Gaerdydd i Faes Awyr Dinas Llundain i ben, gan nodi'r Doll fel y prif reswm dros fethiant y llwybr. Mae'r newyddion yr wythnos hon yn cryfhau eto ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn cefnogi twf cwmnïau hedfan rhanbarthol a chysylltedd rhanbarthol. Dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â datganoli'r Doll, penderfyniad sy'n seiliedig ar ddadansoddiad economaidd hynod ddiffygiol, ochr yn ochr â'i phenderfyniadau i rwystro ein cynnig i sefydlu rhwydwaith o lwybrau awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus i ddinasoedd ledled y DU.

Fel yr ydym wedi'i ddweud dro ar ôl tro, rydym am i Lywodraeth y DU roi'r gorau i ystyried datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn rhwystr, ac yn hytrach yn gyfle, fel y mae wedi'i wneud yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn hwb enfawr i Faes Awyr Caerdydd, i Gymru ac i'r DU.  Bydd datganoli'n caniatáu i ni ganolbwyntio ar nod allweddol yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd, sef cysylltu Cymru â gweddill y DU a gweddill y byd yn well.  Fel y dywedais yn fy natganiad i Gomisiwn Williams ar Ddatganoli Rheilffyrdd, canlyniad penderfyniadau Adran Drafnidiaeth y DU yw bod gan Gaerdydd y cysylltedd rheilffyrdd gwaethaf o blith holl ddinasoedd craidd y DU.  Byddai datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn caniatáu i ni reoli ein tynged a gwella'r sefyllfa hon ein hun.

Yn y gorffennol, rwyf hefyd wedi dweud wrth aelodau ein bod yn gobeithio gwrth-droi penderfyniad gwrthnysig Llywodraeth y DU i'n rhwystro rhag creu rhwydwaith o lwybrau awyr domestig. Nod hynny yw cysylltu Caerdydd â rhannau eraill o’r DU yn well. Mae hyn yn bwysicach nag erioed erbyn hyn. Rhaid i ni gefnogi ein cysylltiadau hedfan a dim ond atgyfnerthu'r pwynt hwnnw mae penderfyniad Flybe i dynnu'n ôl o Gaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ystumio'r farchnad o blaid y meysydd awyr mwy am lawer yn rhy hir. Byddai datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn mynd gam o'r ffordd at sicrhau chwarae teg i bawb, nid dim ond i'r meysydd awyr mawr eraill yn Lloegr.

Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, nawr yw'r amser i weithredu. Ni allwn fforddio aros i benderfyniadau am ein dyfodol gael eu gwneud ar ein rhan. Rhaid i ni fabwysiadu agwedd ragweithiol a rhaid i Lywodraeth y DU gefnogi Cymru, gan sicrhau bod pob rhan o'r DU ar ei chryfaf ar adeg o ansicrwydd o'r fath.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.