Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad hwn i roi gwybod i'r aelodau fod Dyfed Edwards wedi sefyll i lawr dros dro o'i swydd fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn cyflawni ei benodiad newydd fel Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Rydw i wedi gofyn i Jocelyn Davies, sy’n aelod anweithredol o Fwrdd ACC, ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, i weithredu fel Dirprwy Gadeirydd Dros Dro.

Hoffwn ddiolch i Dyfed a Jocelyn am eu cyfraniad gwerthfawr i ACC.