Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates , Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit. 

 

Mae Porth Brexit Busnes Cymru wedi ennill ei blwyf erbyn hyn ac mae'n rhoi'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf i gwmnïau yng Nghymru am amrywiaeth o faterion pwysig, gan gynnwys masnachu rhyngwladol a chynllunio’r gweithlu. Mae hefyd yn cynnig pecyn diagnostig rhyngweithiol y gall busnesau ei ddefnyddio i asesu pa mor barod ydynt ar gyfer Brexit a i ddeall yn well beth arall y gallant ei wneud. Hyd yma, mae 29,510 o fusnesau wedi troi at y porth. 

Mae Busnes Cymru wedi cynnal cyfres o weithdai ar Brexit ledled Cymru hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf er mwyn helpu cwmnïau i ddod i wybod am becynnau priodol i'w helpu i baratoi, ac er mwyn rhoi gwybod iddynt o le y gallant gael rhagor o wybodaeth. Mae'r gweithdai wedi cael derbyniad da iawn ac mae dros 150 o sefydliadau wedi bod ynddynt. Bwriedir cynnal rhagor o sesiynau tan ddiwedd mis Mawrth a bydd y sesiynau hynny’n ategu ymgyrch farchnata genedlaethol ar ymdopi â Brexit er mwyn paratoi busnesau ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd sydd o’u blaenau.

Hoffwn annog y busnesau hynny sydd heb fanteisio eto ar yr adnoddau hyn i wneud hynny. 

I helpu busnesau gyda'r pwysau ariannol sydd arnynt yn sgil Brexit, dyrannwyd £7.5m o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd yn 2018 er mwyn helpu busnesau i feithrin y gallu i ymdopi. Mae rhan o'r cyllid hwnnw ar gael i fusnesau er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol iddynt â'r costau sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer Brexit. Busnes Cymru sy'n gweinyddu'r gronfa hon ac mae wedi cael mwy o geisiadau am gyllid na'r disgwyl ers iddi gael ei lansio ym mis Tachwedd 2018.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw parhau i gynnig y cymorth ariannol hwn felly, rwyf yn falch o gyhoeddi heddiw fod swm ychwanegol o £1.7m yn cael ei ddyrannu ar gyfer

2019-20 fel y bo Busnesu Cymru yn parhau i fedru rhoi cymorth o'r gronfa. Bydd busnesau bach a chanolig ledled Cymru sydd wedi cofrestru gyda Busnes Cymru yn gallu gwneud cais am swm rhwng £10,000 a £100,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru, hyd at uchafswm o hanner costau eu prosiect Brexit.  Mae angen i'r rheini a fydd yn cyflwyno cais i'r gonfa ddangos y bydd eu prosiect yn helpu i ddiogelu swyddi yn ystod y cyfnod ansicr cyn Brexit ac ar ei ôl.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau yng Nghymru yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cael ymrwymiad oddi wrth Lywodraeth y DU y bydd hithau hefyd yn gweithredu’n gyflym ac mewn ffordd gadarnhaol − ac yn defnyddio’r ysgogiadau economaidd sydd ar gael iddi − i gefnogi'n cymuned fusnes a'n heconomi ehangach yn ystod y cyfnod anodd hwn.