Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies MS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i'r dull yr ydym yn ei ddefnyddio i reoli bywyd gwyllt yng Nghymru fod yn amgylcheddol gynaliadwy, yn gyfreithiol gadarn, ac mae'n rhaid iddo gyd-fynd â'n huchelgais adfer natur ehangach. Mae ein hymrwymiadau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ein targedau bioamrywiaeth statudol sydd ar y gweill, a'n rhaglen ehangach i wrthdroi colli natur i gyd yn gofyn am ymagwedd gymesur sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth at weithgareddau a allai effeithio ar gynefinoedd a rhywogaethau sensitif. Mae'r dystiolaeth gyfredol yn dangos y gall rhyddhau adar hela mewn ffordd ddiofal roi pwysau ychwanegol ar rai o'n safleoedd amgylcheddol mwyaf sensitif.

Mae'n parhau i fod yn fwriad polisi i symud tuag at system fwy rheoledig a chynaliadwy ar gyfer rheoli rhyddhau adar hela, gan gynnwys cyflwyno cyfundrefn drwyddedu yn y dyfodol. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, rwyf wedi cyflwyno galwad annibynnol am dystiolaeth. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol wedi'u seilio ar y dystiolaeth gryfaf a mwyaf diduedd sydd ar gael, yn adlewyrchu sefyllfa ecolegol Cymru, ac yn gallu gwrthsefyll craffu cyfreithiol a gwyddonol.

Bydd Platfform Amgylchedd Cymru (EPW), sy'n gweithio ar draws prifysgolion Cymru, yn arwain y broses annibynnol hon o gasglu tystiolaeth. Bydd eu gwaith yn defnyddio'r ymchwil wyddonol ddiweddaraf, cipolygon gan arbenigwyr a phrofiad ymarferol i gael dealltwriaeth gliriach o effeithiau posibl rhyddhau adar hela a helpu i nodi lle y gallai fod angen camau rheoleiddio i amddiffyn ein safleoedd mwyaf sensitif.

Bydd yr adolygiad o'r dystiolaeth hwn yn sylfaen bwysig ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol. Bydd yn helpu i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn dryloyw, yn gymesur ac yn cyd-fynd â'n hymrwymiadau ehangach i atal a gwrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, diogelu safleoedd gwarchodedig a chynnal safonau uchel o lywodraethiant amgylcheddol.