Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi pecyn cymorth newydd i GeoMôn, ein Geoparc ar Ynys Môn, un o'n hardaloedd mwyaf arbennig o dreftadaeth naturiol yng Nghymru.

Mae Cymru yn gwneud yn rhyfeddol yn rhyngwladol o ystyried ei thirwedd, ei chofnod archaeolegol, ei hiaith a'i diwylliant unigryw. Mae ein Parciau Cenedlaethol a'n Tirweddau Cenedlaethol yn rhai o'r trysorau hynny o ran tirwedd, ond mae gennym hefyd sawl ardal a gydnabyddir yn rhyngwladol gan UNESCO: 4 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, biosffer UNESCO a dau Geoparc UNESCO.

Mae gan lawer o wledydd hanes o ddefnyddio ffenomena daearegol i ddenu ymwelwyr a chyfoethogi dysgu. Nid yw geodwristiaeth yn newydd i Gymru, ond rydym yn awyddus i wneud mwy i fanteisio'n llawn ar botensial ein geoparciau i gefnogi twristiaeth gynaliadwy a hyrwyddo balchder lleol ac ymdeimlad o le a pherchnogaeth. 

Ein Geoparc cyntaf oedd Fforest Fawr, yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rydym yn ddiolchgar i Awdurdod y Parc Cenedlaethol am reoli a hyrwyddo'r ardal. Mae ein Geoparc arall ar Ynys Môn. Dyma'r ynys gyntaf erioed i dderbyn statws Geoparc. Mae'n cwmpasu tua 720 cilometr sgwâr ac mae ganddo 201 cilometr o arfordir. Gyda chreigiau sy'n rhychwantu 4 gorgyfnod a 12 cyfnod daearegol, mae 1,800 miliwn o flynyddoedd o hanes wedi ffurfio dros 100 o fathau o greigiau. 

Yn ddiweddar, roeddwn yn falch iawn o gwrdd â gwirfoddolwyr yng nghanolfan ymwelwyr GeoMôn yn Amlwch - grŵp o bobl leol ymroddedig, gan gynnwys nifer o wyddonwyr blaenllaw.  Rwy'n talu teyrnged i ymrwymiad ac angerdd y gwirfoddolwyr hyn. Mae'r elusen yn gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo'r Geoparc yn lleol, trwy deithiau cerdded tywysedig a chyhoeddiadau. 

Ar fy ymweliad fe wnaethom drafod cynlluniau a dyheadau GeoMôn ar gyfer y dyfodol. Bydd cyllid pwrpasol yn eu helpu i gyrraedd eu potensial o ran ennyn diddordeb ymwelwyr a phobl leol. Felly, rwy'n falch iawn o gyhoeddi grant newydd i GeoMôn, a fydd yn eu galluogi i gyflogi Swyddog Datblygu. Rôl y person hwn fydd:

  • Gwella'r broses o gyflawni amcanion cynaliadwyedd UNESCO a Llywodraeth Cymru
  • Datblygu mentrau newydd ar gyfer prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid sy'n cyfrannu at strategaeth twristiaeth gynaliadwy ar gyfer Ynys Môn
  • Ehangu'r gwaith ymgysylltu â chymunedau lleol drwy ymgyrch ddeinamig ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cynyddu cyrhaeddiad ei gyfleusterau addysgol ar gyfer ysgolion, a
  • Gwneud y geoparc a brand UNESCO yn fwy gweledol. 

Bydd y cyllid cymharol gymedrol hwn yn cael effaith sylweddol ar dreftadaeth yr ynys ac yn helpu i roi'r proffil i'n Geoparciau y maen nhw'n ei haeddu. 

Bu'n fater o wrando ar weledigaeth leol ar gyfer gwarchod a hyrwyddo treftadaeth naturiol, a deall y weledigaeth honno. Rwy'n falch o gefnogi GeoMôn wrth iddo barhau i adrodd stori ein treftadaeth naturiol unigryw o'r radd flaenaf.