Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw, ffenest newydd ar gyfer datgan diddordeb yn Glastir Uwch, ar gyfer contractau i gychwyn 1 Ionawr 2017. Bydd y ffenestr yn agor 9 Tachwedd ac yn cau am hanner nos 4 Rhagfyr 2015.

Glastir Uwch yw’r cynllun amaeth-amgylcheddol lefel uwch i Gymru sydd yn rhoi cymorth i ffermwyr a rheolwyr tir i ymgymryd ag ymarferion  rheolaeth penodol ar gyfer cyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol mewn lleoliadau wedi eu targedu. Mae wedi ei gynllunio i ateb amcanion Llywodraeth Cymru o atal newid hinsawdd, gwella ansawdd dwr, cynnal a gwella bioamrywiaeth, rheoli a gwarchod tirlun a’r amgylchedd hanesyddol ynghyd â chreu cyfleoedd newydd i wella mynediad a dealltwriaeth o gefn gwlad.

Mae dyluniad y cynllun wedi derbyn canmoliaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd am fod yn flaengar a dyfeisgar yn y modd y mae’n targedu gweithgareddau mor effeithlon i gwrdd â’r amcanion hyn o dan egwyddorion Rheoli Adnoddau Addasol. Mae diddordeb ac ymgysylltiad o blith ffermwyr  wedi bod yn uchel,  gyda galw gormodol yn y bedair mlynedd cyntaf ers ei lansio.

Mae Glastir Uwch yn un o’r cynlluniau cyntaf i’w agor dan raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sy’n adlewyrchu cyfraniad sylweddol y cynllun tuag at wireddu canlyniadau amgylcheddol wedi eu targedu. Drwyddi draw, mae’r rhaglen yma yn rhoi cyfle sylweddol i ffermwyr a rheolwyr tir i wneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy, proffidiol a hydwyth - y budd triphlyg mae’r Llywodraeth yma yn ceisio ar gyfer ein diwydiannau amaethyddol a choedwigaeth.  

Ar hyn o bryd mae ychydig llai na 1600 contract mewn llaw ac amcangyfrifir y bydd dros 2000 o gytundebau erbyn 2017.