Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i ehangu ar sylwadau a wnaed yn ymateb Llywodraeth Cymru i Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’n sefyllfa gyllidol ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi cael ei herio mewn dadleuon gwleidyddol ers hynny.
Mae setliad grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 £146m neu 0.6% yn uwch mewn termau arian parod nag yn 2026-27. Fodd bynnag, o ystyried chwyddiant yn 2027-28 o 2.1%, mae hyn yn golygu gostyngiad o 1.5% mewn termau real.
Mae cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys y sefyllfa net o ran trethi datganoledig ac ardrethi busnes. Mae ystyried yr elfennau hynny yn y ddwy flynedd yn cynyddu’r cynnydd o ran termau arian parod o flwyddyn i flwyddyn i oddeutu £400m neu 1.6%. Fodd bynnag, mewn termau real mae hynny’n dal i olygu gostyngiad o 0.5%.
Ar y sail honno, mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â sylwebwyr annibynnol fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, wedi asesu effaith Cyllideb y DU ar Gymru fel un a fydd yn arwain at ostyngiadau termau real i’n cyllid y flwyddyn nesaf.
Wrth i brisiau godi, ni fydd y cyllid a gawn yn mynd mor bell. Rhagwelir y bydd chwyddiant yn uwch eleni a’r flwyddyn nesaf o gymharu â rhagolygon mis Mawrth. Nid yw’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd wedi gwrthbwyso’r ergyd honno yn sgil chwyddiant uwch; mae gwerth termau real y setliad grant bloc ar gyfer 2027-28 a 2028-29 yn is nag yr oeddem yn ei ddisgwyl cyn Cyllideb yr Hydref.
Mae datganiadau hefyd wedi’u gwneud dro ar ôl tro ynglŷn â’r “lefel uwch nag erioed” o gyllid ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Dylid nodi bod disgwyl i’r cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn ystod tymor seneddol presennol y DU (2023-24 i 2028-29) fod yn is na thymor seneddol blaenorol y DU (2019-20 i 2023-24).
Cyhoeddir y datganiad hwn er eglurder ac i gynorthwyo’r cyhoedd i ddeall y mater hollbwysig yn ymwneud â chyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
Nodiadau
Nid yw’r newid o flwyddyn i flwyddyn yn y setliad DEL refeniw a nodir uchod yn cynnwys addasiadau technegol a wneir i adlewyrchu gostyngiadau yng nghyfraniadau cyflogwyr i bensiynau gwasanaethau cyhoeddus. Y mesur chwyddiant a ddefnyddir yw’r rhagolwg y datchwyddydd GDP (2.1% yn 2027-28), a gyhoeddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ochr yn ochr â Chyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU ac a ddefnyddir i addasu ar gyfer chwyddiant yng Nghyllideb Llywodraeth y DU. Rhagwelir y bydd mesur amgen o chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, yn 3.1% yn 2027-28.
Y sefyllfa net o ran trethi datganoledig yw’r gwahaniaeth rhwng refeniw trethi datganoledig a’r addasiadau cysylltiedig i’r grant bloc.
