Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2019, cyhoeddom argyfwng hinsawdd. Mae ein cynllun Cymru Sero Net, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn nodi ein targed cyfreithiol trosfwaol i Gymru ddod yn sero net erbyn 2050, a’r uchelgais i’r sector gyhoeddus, gan gynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol, fod yn sero net ar y cyd erbyn 2030.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030, sy’n rhoi mandad clir ac uchelgeisiol i GIG Cymru gymryd camau i leihau allyriadau.

Dim ond y dechrau oedd hyn. Heddiw, rwy’n  lansio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – Trywydd Datgarboneiddio tuag at Sero Net erbyn 2030. Mae’n crynhoi’r camau cyntaf y bydd y sector gofal cymdeithasol yn eu cymryd tuag at bod yn sero net, gyda 15 o fentrau clir ac uchelgeisiol ond cyraeddadwy. Mae’n cwmpasu ystod o feysydd wedi’u targedu a fydd yn cefnogi’r sector i leihau ei allyriadau, gan gynnwys mwy o lythrennedd carbon, teithio llesol a cherbydau allyriadau isel, caffael ac effeithlonrwydd ynni adeiladau.

Mae Gofal Cymdeithasol yng Nghymru wedi wynebu heriau digynsail yn ystod y pandemig ond mae wedi dangos ymroddiad gwirioneddol i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal effeithiol a thosturiol er mwyn diwallu eu hanghenion. Mae angen trin newid hinsawdd gyda’r un brys, oherwydd y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

Rwy’n hyderus y bydd y trywydd hwn yn cefnogi’r sector wrth i ni symud tuag at bod yn sero net erbyn 2030, a gwn fod gofal cymdeithasol yn barod i chwarae ei ran.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.