Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 21 Mehefin 2011 cyhoeddais gynigion ar gyfer ariannu addysg uwch rhan-amser ynghyd â phecyn newydd o gymorth ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Nod y cynigion yw sicrhau rhagor o gydraddoldeb rhwng myfyrwyr amser llawn a myfyrwyr rhan-amser o ran cymorth â ffioedd dysgu.

Ymgynghorwyd ynghylch y cynigion newydd o 5 Medi hyd 3 Hydref a chynhaliwyd gweithdy gyda'r rhanddeiliaid allweddol ar 20 Medi.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 32 o ymatebion ysgrifenedig i'r papur ymgynghori.  Dyma'r prif negeseuon:

• roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion a ddaeth i law yn croesawu'r cynnig i sicrhau rhagor o gydraddoldeb rhwng y cymorth a gynigir i fyfyrwyr amser llawn a'r cymorth a gynigir i fyfyrwyr rhan-amser;
• roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn gofyn a fyddai modd gohirio'r bwriad i weithredu'r trefniadau newydd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser hyd blwyddyn academaidd 2013/14 fel bod modd ystyried ymhellach y newidiadau a'u heffaith;
• cytunwyd yn gyffredinol y dylai fod rheolaethau ar gynlluniau ffioedd ar gyfer pob math o astudiaethau;
• mynegwyd peth pryder ynghylch y ffaith y gallai'r sector weld lleihad yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yn sgil y ffioedd uwch;
• mynegwyd peth pryder ynghylch y goblygiadau i'r myfyrwyr hynny nad yw'r trefniadau cymorth i fyfyrwyr yn berthnasol iddynt, yn arbennig y rhai sy'n astudio am lai na 25% o'r amser, uwchraddedigion, a myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cwrs addysg uwch;
• dadleuai rhai o'r ymatebwyr fod angen i ni ystyried ymhellach rôl bosibl cyflogwyr ynghyd â'r effeithiau posibl ar gyflogadwyedd ac ar ailennill sgiliau;
• mae angen strategaeth gyfathrebu glir a fydd yn ategu unrhyw newidiadau.

Paratoir adroddiad sydd yn crynhoi canfyddiadai'r ymgynghoriad ac fe'i gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff aelodau eu hysbysu pan fydd yr adroddiad  ar gael.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymgynghoriad ac o'r digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid. Mae'r adborth a dderbyniwyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth bennu'r ffordd orau o weithredu a datblygu ymhellach y cymorth a gynigir i fyfyrwyr rhan-amser yng Nghymru. Er bod rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi yn croesawu fy nghyhoeddiad a'r ymgais i sicrhau rhagor o gydraddoldeb rhwng astudiaethau amser llawn a rhan-amser, teimlir yn gryf fod angen gohirio'r broses o weithredu'r trefniadau diwygiedig.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwyf wedi penderfynu gohirio'r bwriad i weithredu system ddiwygiedig ar gyfer ffioedd dysgu a chymorth i fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser hyd blwyddyn academaidd 2013/14. Rwy'n awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn i bwyso a mesur y newidiadau yr ydym wedi'u cyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf a dadansoddi'n fwy manwl yr effaith y gallai'r newidiadau posibl eu cael ar astudiaethau rhan-amser yng Nghymru. 

Yn y cyfamser rwy'n  awyddus i barhau i annog astudiaethau rhan-amser yng Nghymru yn unol â nodau Er Mwyn Ein Dyfodol. Gallaf gadarnhau y bydd y pecyn presennol o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy'n hanu o Gymru hefyd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13.

Golyga hyn y bydd myfyrwyr rhan-amser yn parhau i allu cyflwyno cais am:
• Grant Ffioedd sy'n destun prawf modd;
• Grant Cwrs sy'n destun prawf modd; a
• cymorth arall wedi'i dargedu i fyfyrwyr sy'n destun prawf modd sef Grant Gofal Plant, Grantiau Oedolion Dibynnol a Lwfans Dysgu i Rieni.