Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd 'lansiad anffurfiol’ o fersiwn newydd o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15, ynghyd â’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar 28 Medi, cyn eu cyhoeddiad ffurfiol arfaethedig ar ddydd Mercher 1 Rhagfyr 2021. Ers y lansiad anffurfiol mae rhai Awdurdodau Lleol wedi codi pryderon ynghylch y canllawiau a'r map newydd arfaethedig.

Mae'r cyngor yn y TAN 15 newydd yn seiliedig ar Fap Llifogydd ar gyfer Cynllunio sy'n cynnwys amcanestyniadau sy'n dangos ardaloedd risg llifogydd yn y dyfodol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae cynnwys amcanestyniadau o'r fath wedi achosi tipyn o gynnydd ym maint parthau llifogydd risg uchaf gan gynnwys mewn rhai o'n canol dinasoedd a threfi

Er mwyn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ystyried effaith y rhagamcanion newid yn yr hinsawdd yn llawn ar eu hardaloedd, rwy'n gohirio cyhoeddi y TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio tan 1 Mehefin 2023. Rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn nodi'r gwaith y mae'n rhaid ei wneud nawr i wneud cymunedau a allai gael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd yn wydn.

Bydd y TAN 15 presennol, a gyhoeddwyd yn 2004, a'r Map Cyngor Datblygu yn parhau yn y cyfamser fel y fframwaith ar gyfer asesu risg llifogydd yn y system gynllunio.

Rwyf wedi rhoi gwybod i’r Llywydd y bydd gohirio TAN 15 a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn gofyn am ddeddfwriaeth ar ffurf Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021