Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi datganiad manwl ar ddiwylliant. Rwy'n gwneud hynny i atgyfnerthu pwysigrwydd diwylliant, ac i ysgogi mwy o drafodaethau am sut y gallwn gydweithio i feithrin, hyrwyddo a mwynhau ein diwylliant.

Mae ‘Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru’ yn amlinellu fy uchelgeisiau ar gyfer diwylliant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae'n disgrifio sut y mae sefydliadau diwylliannol ac ymarferwyr yn helpu i fynd i'r afael ag ystod o agendau polisi eraill, yn ogystal â chyfoethogi'n bywydau.  Mae'n nodi'r hyn y byddwn ni fel llywodraeth yn ei wneud i helpu'r sector pwysig hwn i ffynnu.

Mae'r datganiad yn dathlu ein hatyniadau diwylliannol amryfal, ein casgliadau syfrdanol a'r hyn y mae ein talentau bywiog a dwyieithog creadigol gorau yn eu cynhyrchu. Mae'n ceisio adeiladu ar y lefelau presenoldeb a chyfranogiad uchel mewn gweithgareddau diwylliannol.  Mae hefyd yn herio'r sector diwylliannol i barhau i wella mewn sawl maes, megis cynhyrchu incwm a defnyddio technoleg ddigidol.

Yn ogystal â hyn, mae'n galw ar awdurdodau lleol i barhau i gefnogi diwylliant ac i'r cyrff diwylliannol a noddir annog eu cleientiaid i gyfrannu at yr agendâu iechyd, addysg, adfywio a threchu tlodi, ynghyd â gwneud rhagor i helpu'r sector i amrywio'i incwm.

I weld y dogfen: Datganiad o weledigaeth ar gyfer y celfyddydau a diwylliant: Golau yn y Gwyll