Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Un o egwyddorion sylfaenol ein system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw datblygu a diogelu system ddwyieithog. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn sefydlu'r ddyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i adolygu digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) yn y Gymraeg, ac i adrodd ar hynny.
Mae digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn ymwneud â sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad i'r adnoddau a'r cymorth priodol yn y Gymraeg i ddiwallu eu hanghenion unigol. Disgwylir i'r adolygiad cyntaf o'r fath gael ei gwblhau a'i gyhoeddi erbyn 1 Medi 2026, union bum mlynedd ar ôl gweithredu'r Ddeddf ar 1 Medi 2021.
Yn dilyn proses gaffael gadarn a thryloyw, mae’r contract adolygu wedi’i ddyfarnu’n ffurfiol i'r sefydliad ymchwil annibynnol Arad Research. Mae'r adolygiad hwn yn elfen hanfodol o'n hymrwymiad i sicrhau'r safonau uchaf yn ein system addysg, gan ddarparu mecanwaith angenrheidiol ar gyfer asesu, adlewyrchu a gwella parhaus.
Edrychaf ymlaen at ganlyniad yr adolygiad pwysig hwn a'r darlun gwerthfawr y bydd yn ei gynnig. Bydd ei ganfyddiadau’n allweddol o ran dyfnhau ein dealltwriaeth o ddarpariaeth addysg ddwyieithog a chefnogi rhagoriaeth barhaus ein system addysg.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
