Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, cyhoeddais fy mwriad i baratoi at ailgyflwyno'r afanc Ewrasiaidd yng Nghymru. Ym mis Hydref 2025, yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, gwnes gadarnhau fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth i gydnabod afanc Ewrasiaidd fel rhywogaeth frodorol a darparu'r mesurau gwarchod angenrheidiol iddynt ffynnu yng Nghymru.

Heddiw rwy'n cyhoeddi bod Gorchymyn Afancod (Cymru) 2026 (dolen allanol) wedi'i osod. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 i gydnabod afanc Ewrasiaidd fel rhywogaeth frodorol yng Nghymru ac i roi statws Rhywogaeth a Warchodi gan Ewrop. Daw'r ddeddfwriaeth i rym ar 4 Mawrth 2026. 

Bydd y newidiadau deddfwriaethol hyn yn ein galluogi i sefydlu fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer trwyddedu a rheoli, gan sicrhau bod unrhyw ryddhau yn y dyfodol yn cael ei reoleiddio a bod afancod Ewrasiaidd yn cael eu gwarchod yn briodol yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu canllawiau trwyddedu manwl, protocolau monitro, a chynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd unrhyw benderfyniadau polisi ehangach ar raglenni ailgyflwyno a reolir yn destun asesiadau effaith ac ymgynghori ar wahân. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, buddiannau ffermio a physgodfeydd, a sefydliadau cadwraeth drwy Fforwm Afancod Cymru i fynd i'r afael â phryderon ac elwa i'r eithaf ar y manteision.