Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi rhoi ei chymeradwyaeth i'r Gweinidog dros Fioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig i Orchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023 (y Gorchymyn) gael ei wneud yn Senedd y DU.

Gwneir y Gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 87, 88 a 97(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, a pharagraff 6(a) o Atodlen 8 a pharagraffau 5 ac 8 o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (a).

Mae'r Gorchymyn yn diwygio Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008 (O.S. 2008/576) (Gorchymyn 2008) a sefydlodd Fwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi ardollau i ddarparu gwasanaethau mewn sectorau amaethyddol penodol. Bydd y Gorchymyn yn gwneud y canlynol:-

  • Diwygio'r broses cymeradwyaeth Gweinidogion ar gyfer cyfraddau ardollau
  • Caniatáu ar gyfer y gallu i osod cyfradd o sero os oes angen i ymateb i argyfyngau yn y sector
  • Cadarnhau tymor y Cadeirydd neu aelod o'r Bwrdd yn y rôl. Gall hyn fod am hyd at ddau dymor ac ni ddylai fod dros gyfanswm o wyth mlynedd. Bydd hyn yn ei gysoni â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet
  • Diwygio'r ddarpariaeth ar gyfer didynnu ardollau i sicrhau eu bod yn gyson ac yn fwy hyblyg ar draws pob sector.
  • Estyn cwmpas yr AHDB i weithio gyda sectorau amaethyddol eraill (nad ydynt yn talu ardollau) ledled y DU
  • Sicrhau bod ardollau ar rawnfwydydd neu hadau olew yn cael eu talu o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad am yr ardoll.

Gosodwyd y Gorchymyn gerbron Senedd y DU ar 6 Mehefin 2023 i ddod i rym 21 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.