Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Creodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ("Deddf 2022") fframwaith statudol newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru. Sefydlodd hefyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (a elwir bellach yn Medr) a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Ers i Medr ddod yn weithredol ym mis Awst 2024, mae ei swyddogaethau fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022 wedi'u dwyn i rym fesul cam. Mae'r cam nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ebrill eleni. O ganlyniad i hyn, mae angen nifer fach o ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n rhychwantu ac eithrio dim ond i Gymru a Lloegr, neu sy'n ymwneud â materion a gedwir yn ôl gan Senedd y DU.

Mae adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn, i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Deddfau hynny.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn defnyddio'r pŵer hwn i wneud y diwygiadau technegol sydd eu hangen i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU o ganlyniad i Ddeddf 2022 a Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024 a wnaed o dan y Ddeddf honno.

O'r herwydd, gosododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddrafft o Orchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2026 gerbron Senedd y DU ar 2 Chwefror i'w gymeradwyo.