Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ar 28 Hydref fe wnes i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn rhoi gwybod i Aelodau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gosod drafft o Orchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 gerbron Senedd y DU.
Mae’r Gorchymyn hwnnw nawr wedi’i gymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd ac wedi’i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 15 Rhagfyr 2025.
