Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi gosod Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolaethau Mewnforio) (Cymru) 2025, sy'n cyfyngu ar fewnforio nwyddau penodol yn bersonol o wladwriaethau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ynghyd ag Ynysoedd Ffaro, y Swistir a'r Ynys Las. 

Mae hyn wedi disodli y mesurau diogelu tymor byr presennol sydd ar waith i gyfyngu ar fewnforio cig anifeiliaid cnoi cil a chig moch, a chynhyrchion llaeth, o wladwriaethau yr AEE ynghyd ag Ynysoedd Ffaro, y Swistir a'r Ynys Las i Gymru i'w bwyta a'u defnyddio'n bersonol. Mae rhagor o fanylion i'w gweld yma

O gymharu â mewnforion masnachol, mae ansicrwydd amrywiol mewn ardystio, olrhain a bioddiogelwch mewnforion personol.  Mae mewnforion personol yn her arbennig o ran olrhain gan na ellir canfod tarddiad cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid (POAO) gan nad oes angen tystysgrifau iechyd arnynt. Mae hyn wedyn yn peri risg sylweddol y gallai clefydau iechyd anifeiliaid gael eu cyflwyno i Brydain Fawr (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Bydd y Gorchymyn newydd hwn yn darparu amddiffyniad hirdymor, gwydn rhag y risg o glefydau yn ymledu drwy fewnforio POAO yn bersonol i Brydain Fawr. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau yn ymrwymedig i gynnal ein bioddiogelwch a'n ffiniau yn wyneb y risgiau cynyddol hyn o glefydau a byddant yn parhau i sicrhau diogelwch ein ffermwyr a'n heconomi. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.