Neidio i'r prif gynnwys

Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Gorchymyn drafft y Dreth Gyngor (Blwyddyn Ailbrisio) (Diwygio) (Cymru) 2026 gerbron y Senedd, yn dilyn fy natganiad ar 20 Hydref.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Gorchymyn yn diwygio dyddiad yr ymarfer ailbrisio nesaf ar gyfer y dreth gyngor, a nodir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, o 1 Ebrill 2028 i 1 Ebrill 2032. Bydd hyn yn gohirio ymarfer ailbrisio'r dreth gyngor tan dymor nesaf y Senedd ac yn caniatáu i Lywodraeth Cymru archwilio ffyrdd wedi'u targedu o wneud y dreth gyngor yn decach, yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol heriol iawn yr wyf wedi'i hamlinellu.

Gwnaed y penderfyniad i ohirio'r ymarfer ailbrisio nesaf oherwydd byddai bwrw ymlaen yn 2028 wedi creu annhegwch newydd yn y system pe na baem yn gallu darparu cymorth ariannol digonol ar hyn o bryd i'r aelwydydd hynny a fyddai wedi gweld cynnydd yn eu biliau treth gyngor. Byddai hwyluso'r broses bontio yn y ffordd y byddwn i wedi'i dymuno wedi costio tua £80m i Lywodraeth Cymru yn 2028-29, a mwy yn y tair blynedd ganlynol.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi cyhoeddi adroddiad (Saesneg yn unig) heddiw sy'n asesu effeithiau newidiadau i system y dreth gyngor wedi'i hailbrisio, ynghyd â'r costau sy'n gysylltiedig â sawl dull posibl o weithredu cynlluniau rhyddhad trosiannol. Mae'r adroddiad yn darparu dadansoddiad annibynnol gwerthfawr o'r effeithiau a'r costau sy'n gysylltiedig ag ymarfer ailbrisio, ac mae'n seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael. Mae'n gyfraniad pwysig i'n gwaith ar y cyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd o wneud y dreth gyngor yn decach. Byddwn yn parhau i ystyried y dystiolaeth, archwilio gwelliannau wedi'u targedu a fforddiadwy i'r system bresennol, a gweithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill yn ystod tymor y Senedd hon.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Gorchymyn drafft a gynhelir fis nesaf.