Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn i’r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ddod i rym ar 17 Medi 2023, a chan gydnabod y rhan bwysig y mae ymgysylltu, addysg a gorfodi yn ei chwarae yn ei weithrediad llwyddiannus, mae’n bleser gennyf heddiw gyhoeddi’r datganiad ar y cyd fel a ganlyn gyda’r pedwar heddlu yng Nghymru:

Bydd y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn cael ei orfodi, gyda’r rhai sydd yn goryrru’n ormodol yn cael eu dirwyo.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r pedwar Heddlu yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol, grwpiau gwylio cyflymder cymunedol, ysgolion, a grwpiau cymunedol, i godi ymwybyddiaeth am y terfyn newydd.

Bydd swyddogion heddlu a phartneriaid plismona yn rhybuddio ac addysgu gyrwyr cymaint â phosib wrth i’r terfyn cyflymder newydd ddod i rym. I ddechrau, tra bod gyrwyr yn dod i arfer â’r terfyn cyflymder diofyn 20mya newydd, ac os nad ydynt yn torri’r terfyn yn ormodol, byddant yn cael cynnig sesiynau ymgysylltu ymyl ffordd (lle maent ar gael) gyda’r gwasanaethau tân ac achub, fel dewis arall yn lle erlyniad.

Bydd GanBwyll yn darparu polisi gorfodi a dewis safle clir, fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau priffyrdd eraill. Bydd GanBwyll hefyd yn cyhoeddi rhestr o’r holl leoliadau gorfodi ar eu gwefan, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd terfyn cyflymder 20mya.

Rydym am gefnogi bwriadau polisi Llwybr Newydd i hyrwyddo teithio diogel a llesol mewn cymunedau, gan gydnabod mai dim ond pan fetho popeth arall y bydd gostegu traffig traddodiadol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cydymffurfio â 20mya.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ei chyfraniad cyllid blynyddol o £2,555,500 i GanBwyll eleni, ynghyd â £600,000 ychwanegol ar gyfer ymgysylltu 20mya ar ymyl ffordd. Y flwyddyn nesaf, bydd y cyllid blynyddol yn cael ei gynyddu i £2,800,000 yn gyffredinol i gefnogi GanBwyll i helpu i gadw ffyrdd yn ddiogel yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at gydweithio â’n partneriaid i helpu i gyflawni holl fanteision y polisi hwn: achub bywydau, lleihau anafiadau a chynyddu llesiant.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.