Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ym mis Ebrill 2013 ynghylch ei gwneud hi’n orfodol i roi microsglodyn ar bob ci erbyn 1 Mawrth 2015, byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth ar ôl Pasg 2014 i'w gwneud hi'n orfodol i bob ci gael microsglodyn o 1 Mawrth 2015 ymlaen.

Bydd creu cyswllt clir rhwng ci â’i berchennog yn helpu i annog perchenogion cŵn i fod yn fwy cyfrifol, ac yn sicrhau lles yr anifail os yw'n crwydro neu'n cael ei anafu. Er bod gan berchnogion cŵn eisoes ddyletswydd gofal yn sgil Deddf Lles Anifeiliaid 2006, mae hi’n gynyddol bwysig sicrhau bod modd cysylltu perchnogion â’u cŵn.  Gall fod yn anodd iawn sicrhau bod y ddyletswydd yn cael ei chyflawni heb ddull o adnabod perchnogion cŵn. Bydd microsglodion yn ffurfioli ymhellach y berthynas rhwng perchennog â’i gi, gan sicrhau bod perchnogion yn fwy atebol am anghenion lles eu hanifeiliaid. 
Mae nifer o fanteision eraill o roi microsglodyn ar gi:

  • mae'n golygu bod modd dychwelyd cŵn yn gyflym at eu perchnogion - a bydd awdurdodau lleol yn gallu pwysleisio wrth y perchnogion nad yw'n dderbyniol caniatáu iddynt grwydro.  Bydd addysg yn helpu i leihau'r tebygrwydd o weld y ci yn crwydro eto, ac yn cadarnhau cyfrifoldebau perchnogion dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006;
  • dylai fod yn haws adnabod perchnogion sydd o bosib yn euog o greulondeb tuag at anifeiliaid;
  • gall milfeddygon gysylltu â pherchnogion cŵn os oes angen triniaeth frys;
  • gall cŵn mewn eiddo penodol gael eu hadnabod yn gyflym mewn argyfwng, fel bod modd eu symud a'u dychwelyd at eu perchnogion yn gynt; 
  • gall atal pobl rhag dwyn cŵn;  
  • mae modd olrhain pob ci bach at ei fridiwr, a all fod o gymorth wrth olrhain heintiau a chyflyrau a gaiff eu hetifeddu. 
Ers llynedd, mae swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau helaeth gyda'r diwydiant ar y cyd gyda Llywodraeth y DU.  Bydd yn cymryd peth amser i weithredu'r cynigion sy'n codi o'r trafodaethau hyn, ac fe fyddant yn destun ymgynghoriad a deddfwriaeth ddiwygio.  Y bwriad yw sicrhau y bydd llai o faterion trawsffiniol yn codi rhwng Cymru a Lloegr.  Ni fydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar y ffaith bod angen i berchnogion osod microsglodion ar eu hanifeiliaid.  O ganlyniad rwyf o'r farn ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyswllt rhwng ci a'i berchennog yn orfodol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ac yn unol â bwriad polisi Llywodraeth Cymru. 
 
Felly rwy’n annog pob perchennog sydd heb roi microsglodyn ar ei gi eto i wneud hynny erbyn 1 Mawrth 2015, pan fydd yn orfodol.

Os ydych yn ansicr ynghylch sut i wneud hyn, cysylltwch â'ch milfeddyg lleol, neu cysylltwch â'r Dogs Trust sydd wedi cynnig helpu perchnogion cŵn i roi microsglodion ar eu hanifeiliaid.  Gall perchnogion gyrraedd at y gwasanaethau hynny drwy gysylltu â'r Dogs Trust ar www.dogstrust.org.uk