Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi gosod yr offeryn statudol canlynol gerbron y Senedd:

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-Ddeddfwriaeth) 2022

Mae’r rheoliadau hyn yn rhai technegol ac maent yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2016. Yn gyffredinol mae’r diwygiadau hyn un ai:

a) Yn sicrhau bod darpariaeth bresennol mewn is-ddeddfwriaeth yn parhau i fod ag effaith briodol drwy –

i) Gyfeirio at y contractau meddiannaeth perthnasol ochr yn ochr â chyfeiriadau at fathau presennol o denantiaethau, neu

ii) Cynnwys y derminoleg a ddefnyddiwyd yn Neddf 2016,

          neu –

b) Lle bwriedir i ddarpariaethau Deddf 2016 ddisodli elfennau o’r gyfraith bresennol, neu os nad yw’r gyfraith bresennol yn cyd-fynd â’r hyn a amlinellir yn Neddf 2016, drwy ddatgymhwyso’r gyfraith honno.

Mae’r diwygiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn gweithredu Deddf 2016, gan roi cydlyniant, eglurder a sicrhau cysondeb y gyfraith.

Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 a Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (Cychwyn) 2022  

Nodais yn fy https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-gweithredu-deddf-rhentu-cartrefi-cymru-2016-rhagor-o-ddeddfwriaeth blaenorol y buaswn i’n gwneud ac yn cyhoeddi’n fuan y ddau orchymyn cychwyn sydd eu hangen i ddwyn darpariaethau Deddf 2016 i rym yn llawn. Rwyf wedi cyhoeddi’r rhain heddiw, a fydd yn rhoi’r sicrwydd i landlordiaid a thenantiaid o wybod y bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.

Fel rwyf wedi nodi yn flaenorol, mae canllawiau ac adnoddau eraill ar gyfer landlordiaid a thenantiaid ynghylch Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a’r is-ddeddfwriaeth berthnasol ar gael ar wefan Rhentu Cartrefi Cymru: https://llyw.cymru/mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.