Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, drwy reoliadau. Gellir cyflawni hyn drwy ddau lwybr : ar gais dau neu fwy o brif gynghorau; ac ar gais Gweinidogion Cymru, ond dim ond yng nghyd-destun swyddogaethau penodol neu feysydd swyddogaethol sydd wedi eu nodi ar wyneb y Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau canlynol i sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru wedi eu gosod o flaen y Senedd heddiw, ac sydd ar gael trwy’r ddolen ganlynol, ynghyd â Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

  • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021

Ynghyd â galluogi sefydlu pob un o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig arfaethedig, mae’r Rheoliadau Sefydlu yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol craidd a manylion allweddol megis aelodaeth a’r swyddogaethau fydd yn cael eu gweithredu gan bob Cyd-bwyllgor Corfforedig: cynllunio datblygu strategol; cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol; a’r pŵer i weithredu er mwyn hybu neu wella llesiant economaidd eu hardaloedd.

Mae’r Rheoliadau Sefydlu wedi eu llunio yn dilyn yr ymateb i’r ymgynghoriad a lansiais ar 12 Hydref 2020 yn ogystal â’r gweithgareddau ymgysylltu gwblhawyd gennyf i a’m swyddogion gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol.

I gyd-fynd â’r Rheoliadau Sefydlu, mae’r Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi eu gosod. Mae’r rheoliad hwn yn sicrhau’r addasiadau angenrheidiol i’r Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i’w gwneud yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig uchod ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn eu hardaloedd.

Mae nifer o Offerynnau Statudol hefyd wedi eu gosod ynghyd â’r Rheoliadau Sefydlu i sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig o’r pwynt y cânt eu sefydlu:

  • yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol ac yn dod o dan gylch gwaith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  • yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cyfrifyddu a rheolaeth ariannol priodol ac yn dod o dan gylch gwaith yr Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • yn ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gwasanaethau Cyhoeddus
  • yn gallu bod yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg

Mae hyn yn sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (a’u haelodau) yn ddarostyngedig i ofynion goruchwyliaeth, rheolaeth ac ymddygiad priodol o’r dechrau.

Mae is-ddeddfwriaeth bellach wedi’i chynllunio yn ystod y tymor nesaf i weithredu fframwaith deddfwriaethol llywodraeth leol y bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gweithredu ynddo. Er enghraifft, dim ond unwaith y bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi eu sefydlu y gellir eu gwneud yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddaf yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i gyd-ddatblygu ffordd briodol a chymesur o weithredu’r fframwaith hwnnw.

Bydd y Rheoliadau Sefydlu a’r Offerynnau cysylltiedig yn cael eu creu o dan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol ac yn cael eu trafod yn y Senedd ar 16 Mawrth.

Bydd y Rheoliadau Sefydlu a’r Offerynnau cysylltiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.